Neidio i'r cynnwys

Coetir

Oddi ar Wicipedia
Coetir
Mathendid tiriogaethol, coedwig Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0hnc1 edit this on wikidata
Thesawrws y BNCF9937 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llwybr Coed Pen-y-bont yn arwain o Lyn Tegid, enghraifft o goetir Cymreig
Mynedfa i Coetir Barc Coetir Bargod a blannwyd ar ben safle glofeydd Bargoed a Britannia collieries a'u tipiau gwastraff (2013)

Mae coetir hefyd tir coediog yn dir wedi'i orchuddio â choed yn yr ystyr eang,[1] neu mewn ystyr cul, yn gyfystyr â choedwig dwysedd isel yn ffurfio cynefinoedd agored gyda digon o olau haul a chysgod cyfyngedig. Gall rhai safana hefyd fod yn goetiroedd, fel coetir safana, lle mae coed a llwyni yn ffurfio canopi golau.[2]

Gall coetiroedd gynnal isdyfiant o lwyni a phlanhigion llysieuol gan gynnwys gweiriau. Gall coetir drawsnewid i lwyni dan amodau sychach neu yn ystod camau cynnar olyniaeth gynradd neu eilaidd. Cyfeirir yn aml at ardaloedd o goed dwysedd uwch gyda chanopi caeedig i raddau helaeth sy'n darparu cysgod helaeth a bron yn barhaus fel coedwigoedd.

Gwnaed ymdrechion helaeth gan grwpiau cadwraethol i gadw coetiroedd rhag trefoli ac amaethyddiaeth.

Coetir yn y Gymraeg

[golygu | golygu cod]
Coetir agored yn Illinois, yr Unol Daleithiau

Ceir y cyfeiriad archifiedig cynharaf o'r gair coetir yn y Gymraeg o lawysgrif Brut y Tywysogion yn 14g lle gwelr, "amvydawd holl deuheubarth ay gwraged ... hyt goetir [afon] tywi".[3]

Yn 2020 sefydlodd Llywodraeth Cymru rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru sy'n ymestyn dros 12 o safleoedd ar draws Cymru. Yn ôl y naturiaethwr, Iolo Williams, "bydd Coedwig Genedlaethol i Gymru yn cysylltu ein coetiroedd hynafol a newydd, yn dod â diwylliant ein gorffennol a'n presennol i fywyd i ddathlu Cymru fel gwlad wedi ei chyfoethogi gan ei choetiroedd".[4]

Eco-ranbarthau coetir

[golygu | golygu cod]

Ceir gwahanol fathau o goetiroedd ar draws y byd, i gyd wedi eu haddasu a datblygu yn ôl yr hinsawdd a'r tirwedd. Mae'n cynnwys prysglwyni ("shrub") [5] a'r prysg ("scrub")[6] Gellir eu dosbarthu'n fras fel:

  • Glaswelltiroedd trofannol ac isdrofannol, safana, a phrysglwyni
  • Glaswelltiroedd tymherus, safana, a phrysglwyni
  • Glaswelltiroedd mynyddig a phrysglwyni
  • Coedwigoedd, coetiroedd a phrysg Môr y Canoldir
  • Anialwch a phryslwyni xeric (xeric o'r Hen Groegeg xērós, “sych")

Cysyniad yng Nghymru a Phrydain

[golygu | golygu cod]

Mae coetir yn wahanol i'r goedwig gan nad yw'r brigau coed yn ffurfio gorchudd di-dor — hynny yw, mae'r coed ymhellach oddi wrth ei gilydd. Gyda llaw, mae'r Ffrancwyr yn ei alw'n Forêt claire, felly yn goedwig denau. Ceisir cyfuno cadwraeth a datblygu coetiroedd gyda'r diwydiant ac arferion rheoli amaethyddiaeth.[7]

Defnyddir coetir wrth reoli coetiroedd ym Mhrydain i olygu ardaloedd â gorchudd coed a gododd yn naturiol ac a gaiff eu rheoli wedyn, tra bod coedwigoedd yn cael eu defnyddio fel arfer yn Ynysoedd Prydain i ddisgrifio planhigfeydd, fel arfer yn fwy helaeth, neu goedwigoedd hela, sy'n ddefnydd tir â diffiniad cyfreithiol ac efallai nad yw'n goediog o gwbl.[8] Defnyddir y term coetir hynafol mewn cadwraeth natur ym Mhrydain i gyfeirio at unrhyw dir coediog sydd wedi bodoli ers 1600, ac yn aml (ond nid bob amser) ers miloedd o flynyddoedd, ers yr Oes Iâ ddiwethaf[8] (sy'n cyfateb i'r term Americanaidd 'old growth forest').

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ "Definition of Woodland". Lexico (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 15, 2020. Cyrchwyd 2020-01-15.
  2. ↑ Smith, Jeremy M.B.. "savanna". Encyclopedia Britannica, 5 Sep. 2016, https://www.britannica.com/science/savanna/Environment. Accessed 8 February 2023.
  3. ↑ "coetir". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  4. ↑ "Croeso i Goedwig Genedlaethol i Gymru". Sianel Youtube Llywodraeth Cymru. 2021.
  5. ↑ "shrub". Termau Cymru. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  6. ↑ "scrub". Termau Cymru. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  7. ↑ "Dulliau rheoli Coetir". Cyswllt Ffermio. 2021. Cyrchwyd 11 Mai 2023.
  8. 1 2 Rackham, Oliver (2006). Woodlands (New Naturalist 100). London: HarperCollins. ISBN 9780007202447.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.