Afanc
| Delwedd:Bäver närbild.jpg, American Beaver.jpg, 00 1197 Durch Biber gefällter Baum.jpg | |
| Enghraifft o: | tacson |
|---|---|
| Math | llysysydd |
| Safle tacson | genws |
| Rhiant dacson | Castoridae, Castorinae, Castorini |
| Dechreuwyd | Mileniwm 25. CC |
| Yn cynnwys | Cynffon |
| Dynodwyr | |
| Thesawrws y BNCF | 513 |
| Afanc | |
|---|---|
| Afanc Ewropeaidd | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Rodentia |
| Teulu: | Castoridae |
| Genws: | Castor Linnaeus, 1758 |
| Rhywogaethau | |
|
C. canadensis | |
Cnofil mawr lled-ddyfrol cynffonlydan o'r genws Castor gyda blaenddannedd ffurf cŷn sy'n byw ger afonydd yw afanc. Ceir dwy rywogaeth o afanc heddiw: yr afanc Ewropeaidd (Castor fiber) a'r afanc Americanaidd (Castor canadensis). Maent yn aml yn cnoi coed i lawr ac yn adeiladu camlesi ac argaeau ohonynt i ffurfio pyllau cronedig lle maent yn adeiladu gwalau ynysol, sych a chromennog gyda mynedfeydd tanddwr.
Enw gwyddonol yr afanc Ewropeaidd yw Castor fiber. Ei hen enw oedd ‘llostlydan’ ac yng Nghyfraith Hywel rhoid gwerth uchel i'w groen - 120 ceiniog o'i gymharu â 24 ceiniog am groen bele goed, blaidd a llwynog - oedd efallai yn dynodi ei brinder. Dywed Gerallt Gymro yn 1188 mai Afon Teifi oedd ei gynefin olaf ym Mhrydain. Tebyg iddo ddarfod yng Nghymru yn y 13g. Yr Afanc oedd enw'r anghenfil dŵr chwedlonol dynnwyd o Lyn yr Afanc yn Afon Lledr, Betws-y-coed gan yr Ychain Banog a'i lusgo hyd at Lyn y Ffynnon Las.
Ymlediad
[golygu | golygu cod]Darllen bore ddoe (18 Mehefin 2010) yn ein papur dyddiol, fod y llostlydan a fu bron â diflannu oddi allan i ran afon Rhône wedi croesi i afon Loire a bellach wedi cyrraedd ei haber yng nghyffiniau Nantes.[1]
Prosiect Afancod Cymru
[golygu | golygu cod]Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran y pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru fel rhan o’n strategaeth Tirweddau Byw. Eu gobaith ydy ailgyflwyno afancod i Gymru dan reolaeth.[2]
Afancod enwog
[golygu | golygu cod]- Dau Afanc yn y nofel The Lion, the Witch and the Wardrobe
- The Angry Beavers - cyfres animeiddiedig ar Nickelodeon
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Wmffra Wmffras, Llydaw ym Mwletin Llen Natur rhif 30[dolen farw]
- ↑ "Dod ag afancod yn ôl i Gymru!", Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru; adalwyd 21 Chwefror 2021
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- How Beavers Are Restoring Wetlands in North American Deserts! fideo ar effaith amgylcheddol bositif yr afanc
