Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad, sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1953 |
Gweithwyr | 27, 30, 40, 35, 37 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk |
Ymddiriedolaeth Natur dros ogledd Cymru yw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru (Saesneg: North Wales Wildlife Trust). Mae’n rheoli 36 o warchodfeydd natur yng ngogledd Cymru a hefyd yn gweithio â sefydliadau eraill a pherchnogion tir i warchod a chysylltu safleoedd bywyd gwyllt ledled yr ardal ac i ysbrydoli cymunedau lleol a phobl ifanc i ofalu am fywyd gwyllt. Mae ganddo dros 5,000 o aelodau, ac mae'r brif swyddfa ym Mangor.
Ffurfiwyd yr ymddiriodolaeth, fel Ymddiriedolaeth Naturiaethwyr Gogledd Cymru, ar 26 Hydref. Dros y blynyddoedd, mae nifer y gwarchodfeydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth wedi cynyddu’n gyson, gan orchuddio mwy na 750 o hectarau erbyn hyn, diolch i roddion ar ffurf tir a phrynu safleoedd drwy godi arian. Rydyn ni’n cyflogi mwy na 30 o aelodau o staff yn awr ac yn rheoli cyllideb sy’n fwy nag £1,500,000.[1]
Bioamrywiaeth Cymru |
---|
Cadwraeth |
WiciBrosiect Cymru |
Ceir nifer o ganghennau rhanbarthol, sy'n trefu sgryrsiau, teithiau a digwyddiadau i godi arian:
Gweinyddir 32 gwarchodfa natur gan yr ymddiriedolaeth, arwynebedd o 6.5 km² i gyd:
- Abercorris
- Aberduna
- Big Pool Wood
- Blaen-y-Weirglodd
- Bryn Pydew
- Caeau Pen y clip
- Caeau Tan Y Bwlch
- Cemlyn
- Coed Cilygroeslwyd
- Coed Crafnant
- Coed Porthamel
- Coed Trellyniau
- Coed y Felin
- Cors Bodgynydd
- Cors Goch
- Cors-y-Sarnau
- Gogarth (lle mae siop gan yr ymddiriedolaeth ar y copa)
- Gors Maen Llwyd
- Gwaith Powdwr
- Maes Hiraddug
- Chwarel Marford
- Mariandyrys
- Morfa Bychan
- Nantporth
- Chwarel Pisgah
- Porth Diana
- Rhiwledyn
- Aber Ogwen
- Three Cornered Meadow
- Traeth Glaslyn
- Y Ddol Uchaf
- Y Graig
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Rhestr o warchodfeydd Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru