Ffawna Cymru
(Ailgyfeiriad oddi wrth Anifeiliaid Cymru)
Rhan o gyfres: |
Bioamrywiaeth Cymru |
---|
![]() |
Cadwraeth |
Yr anifeiliaid sy'n byw yng Nghymru yw ffawna Cymru, milod Cymru, milfodeg Cymru neu'n syml anifeiliaid Cymru. Mae rhannau anghysbell o'r wlad yn gartref i rai mamaliaid ac adar sydd wedi darfod o weddill Prydain Fawr, neu'n brin mewn mannau eraill o'r ynys, gan gynnwys y ffwlbart, y bele, y barcud coch a'r frân goesgoch. Ceir niferoedd mawr o adar y môr a'r glannau, ac mae'r dolffin trwynbwl yn byw ym Mae Ceredigion.