Barcud coch

Oddi ar Wicipedia
Barcud coch
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Falconiformes
Teulu: Accipitridae
Is-deulu: Milvinae
Genws: Milvus
Rhywogaeth: M. milvus
Enw deuenwol
Milvus milvus
(Linnaeus, 1758)
Milvus milvus

Aderyn ysglyfaethus mawr yw'r Barcud coch (hefyd Barcut, Barcutan neu Bod). Ceir yn Ewrop mewn coetir, tir amaeth a'r bryniau. Roedd e'n gyffredin ym Mhrydain tan y 19eg ganrif. Aeth yn brin gyda ond ychydig barau yng Nghymru (yn ardal Pumlumon, Sir Aberteifi) oherwydd helwriaeth trwm ac i wenwyn fynd i'r gadwyn fwyd o ganlyniad i'r dulliau modern o amaethu. Mae'n cynyddu bellach a mae'n cael ei ail-gyflwyno i Loegr a'r Alban.

Mae'r Barcud coch yn frowngoch gyda phen gwelw a darn gwyn o dan yr adain. Mae'r adenydd yn hir a chul ac mae'r cynffon yn fforchog.

Bwyd[golygu | golygu cod]

Celanedd a charthion fwyaf ond yn eitha catholig ei fwydlen, fel mae'r sylw canlynol yn awgrymu:

Fwy nag unwaith rhyw chwe wythnos yn ôl ar sawl cae gwair, gweld barcud coch yn hedfan yn isel pan oedd y peiriannau yn gweithio ar y cynhaeaf. Mi ryda ni wedi mynd i feddwl am y deryn fel un ysglyfaethus ac yn gwneud dim ond bwydo ar gelanedd. Mi welais hyn gyntaf sawl blwyddyn yn ôl bellach ar y ffin rhwng yr Almaen a Gwlad Belg lle roedd yr aderyn yn hollol gartrefol gyda'r peiriannau a neb o'r ffermwyr yn gwneud dim sylw ohonynt. Hel pryfed oedd y barcud yn siwr.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Harri Thomas yn Bwletin Llên Natur, rhif 6