Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-orllewin Gymru

Oddi ar Wicipedia
Y ganolfan, Cors Teifi

Mae Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-orllewin Gymru yn un o 5 ymddiriedolaeth o'i bath yng Nghymru,[1] ac mae’n gyfrifol am warchodfeydd dros ardal sydd yn cynnwys Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro (gan gynnwys Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm), Ceredigion a Brycheiniog. Mae gan yr ymddiriodolaeth tua chant o warchodfeydd[2], yn cynnwys Gwarchodfa Natur Cors Teifi[3], Pwll y Wrach, Gwarchodfa Laverock a Gwarchodfa Parc Slip.

Mae’r ymddiriodolaeth hefyd yn cynnal prosiectiau, weithiau ar y cyd gyda cyrff eraill, megys Fy Nghaerdydd Gwyllt, Partneriaeth Canolbarth Cymru y Wiwer Goch a phrosiect y Cymunedau Gwyllt yng Nghwm Tawe.[4]


Bywyd gwyllt y môr[golygu | golygu cod]

Pâl, Ynys Sgomer

Mae gwaith yr ymddiriodolaeth yn cynnwys cefnogaeth bywyd gwyllt y môr, wrth sefydlu Canolfan Bywyd Gwyllt y Môr Bae Ceredigion yng Ngheinewydd.[5]

Gweler hefyd Rhestr o warchodfeydd Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-orllewin Gymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan ymddiriodolaethau bywyd gwyllt Cymru
  2. "Gwefan wildlifewatch.org.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-20. Cyrchwyd 2018-06-13.
  3. Gwefan first-nature.com
  4. "Gwefan yr Ymddiriodolaeth". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-07-06. Cyrchwyd 2018-07-08.
  5. Gwefan discoverceredigion.co.uk

Dolen allanol[golygu | golygu cod]