Gwarchodfa Natur Cors Teifi
Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru | |
Math | gwarchodfa natur |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 264 acre, 107.1 ha |
Gerllaw | Afon Teifi |
Cyfesurynnau | 52.056109°N 4.645049°W |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Mae Gwarchodfa natur Cors Teifi un o warchodfeydd yr Ymddiriodolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin a De-orllewin Gymru yn Sir Benfro ac yn cynnwys y Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru. Maint y warchodfa yw 264 erw.
Saif y warchodfa ar hen gwrs Afon Teifi. Erbyn hyn mae Afon Piliau’n llifo trwodd. Mae gwrychoedd, dolydd a choetir gyda phyllau. Mae llwybr trwy ganol y safle, yn dilyn cwrs hen reilffordd rhwng Hendy Gwyn ac Aberteifi, a gaewyd ym 1962.[1] Mae’r afon yn gorlifo gyda’r gaeaf ac yn denu Meilart, Corhwyaden, Chwiwell, Rhegen y dŵr, Gïach, Cornchwiglen, Gylfinir a Hebog tramor. Mae Telor y Cyrs, Telor yr hesg, Telor Cetti, Hwyaden yr eithin, Llwydfron a Iâr ddŵr yn bridio yma hefyd. Gwelir y canlynol hefyd: Dwrgi, Carw Sika, Carw coch, Chwistlen dŵr, Minc, gwiber a Neidr y glaswellt.[2]
Mae Ychen yr afon yn pori’r warchodfa o dro i dro.
Mae’r warchodfa yn rhan o un fwy, sef Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor.[1]
Mae’r warchodfa wedi dioddef fandaliaeth. Llosgwyd Cuddfan Glas y Dorlan ar 24 Medi 2019. Lansiwyd apêl i ailgodi’r guddfan.[3]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y ganolfan a chaffi
-
Llinos werdd
-
Corhwyaden
-
Rhostog Gynffonfrith
-
Robin goch