Minc

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Minc
Neovison (= Mustela) vison
American Mink.jpg
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Is-deulu: Mustelinae
Enw deuenwol
'

Mae dwy rywogaeth o finc (lluosog: mincod) yn Ewrop: y minc Americanaidd Neovison vison (enw cyfystyr: Mustela vison) a'r minc Ewropeaidd Mustela lutreola. Y gyntaf yn unig sydd yng Nghymru. Ni chyrhaeddodd yr ail Gymru erioed. Er y tebygrwydd rhyngddynt (gellir eu gwahaniaethu wrth y clytyn llydan gwyn ar wefus uchaf y minc Ewropeaidd) nid ydynt o dras agos iawn oddi fewn i deulu'r carlymfilod ac mae'n debyg mai addasiadau i'w cynefin acwatig sydd i gyfri am debygrwydd ffurf eu cyrff. Mae gweddill yr erthygl hwn am y minc Americanaidd ac oni ddywedir y wahanol, dyma'r rhywogaeth a olygir wrth y term 'minc'.

Cedwid y minc Americanaidd yn eang yng Nghymru a Phrydain yng nghanol yr 20g mewn ffermydd ffwr. Yn anochel bu i nifer ddianc (mewn rhai achosion yn fwriadol dan law mudiadau hawliau anifeiliaid) ac fe'i cofnodwyd yn bridio yn y gwyllt ym Mhrydain am y tro cyntaf yn 1956. Ni chaiff groeso yn unman gan unrhyw garfan, gan iddo fwyta pysgod, llygod pengron y dŵr a phob math o fywyd gwyllt arall. Er gwaethaf ymdrechion glew i'w reoli mae ei afael yn dynn, bellach, ar y tir ar draws ynysoedd Prydain. Mae mincod yn nofwyr da, yn plymio 5-6 medr ac yn teithio o dan y dwr am ymron i 30 medr[1]

Rhywogaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Maint[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gwryw yn pwyso tua 1 kg (2.2 lb) ac yn mesur tua 62 cm (24 in) o hyd. Gall anifeiliaid a fagwyd ar fferm finc gyrraedd 3.2 kg (7.1 lb). Mae'r fenyw yn pwyso tua 600 g (1.32 lb) ac yn mesur 51 cm (20 in) o hyd. Nid yw'r mesuriadau hyn yn cynnwys y gynffon sydd yn gallu cyrraedd rhwng 12.8 centimetr (5.0 in) a 22.8 centimetr (9.0 in).

Lliw[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae côt disglair cyfoethog y minc yn y cyflwr gwyllt yn frown ac yn sidanaidd, ond mae anifeiliaid ffermydd-minc yn amrywio o wyn i ddu o'r bron. Fe adlewyrchir yr amrywiaeth yma yn y boblogaeth wyllt yng Nghymru a gweddill Prydain. O ran ansawdd y croen, mae'n frown tywyll, gyda neu heb smotiau gwynion ar y rhannau odditanodd, ac yn cynnwys isflew dwys, llyfn wedi ei orchuddio â gwrychflew disglair, anystwyth.

Cenhedlu a chyfebriad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r tymor cenhedlu yn para o Ebrill i Fai. Mae minc yn dangos y ffenomenon rhyfedd o atal plannu'r ŵy am gyfnod. Er mai 39 diwrnod yw hyd gwirioneddol y cyfebriad, gall yr wy ymatal rhag datblygu am gyfnod sy'n amrywio yn ei hyd, i'r graddau y gall 76 niwrnod fynd heibio cyn cyrraedd y torllwyth. Y cyfnod arferol yw 45-52 niwrnod. Esgorir ar un torlwyth y flwyddyn yn unig, gyda rhwng chwech i ddeg cathan y tro.

Ymddygiad stereotypig[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir mincod mewn caethiwed yn bennaf am eu ffwr. Fe'u cedwir mewn cewyll batri ac yn aml maent yn arddangos ymddygiad stereotypig. Mae ymddygiad afnormal, ail-adroddus yn cynyddu tua amser bwydo, yn benodol camu yn ôl a blaen, a brathu'r gawell, a chredi'r mai ymddygiad mewn caethiwed sydd yn gyffelyb i hela gan y minc.[2] Nodwyd i ymddygiad stereotypig gynyddu hefyd yng ngwydd pobl.[2].

Hoedledd[golygu | golygu cod y dudalen]

Hoedledd cyfartalog y minc yn y gwyllt yw deng mlynedd[3].

Bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mink eating a crayfish

. Pysgod a bywyd acwatig arall, mamoliaid bychan, adar, ac wyau yw prif fwyd y minc[4].

Ysglyfaethwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Y dylluan gorniog fawr Bubo virginianus, bobgathod, a llwynogod yw prif elynion y minc yn ei gynefin cynhenid. Fodd bynnag, lleddir mincod yn llawer amlach gan weithgareddau dynol.

Arferion ar lannau afonydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae minc yn hoff o fyw wrth ymyl dŵr ac anaml y'i gwelir ymhell o lannau afonydd. Hyd yn oed ar grwydr tueddant ddilyn nentydd a ffosydd. Weithiau fe adawant ddŵr yn gyfan gwbl am ychydig gannoedd o fetrau, yn enwedig tra'n herwa am gwningod, un o'u hoff fwydydd. Mewn ambell fan, yn enwedig yn yr Alban ac yng Ngwlad yr Ia (lle maent yn broblem), gallant fyw wrth lannau'r môr. Weithiau hefyd maent yn oddef trefi heb falio'n ormodol am bresenoldeb pobl.

Tiriogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae mincod yn greaduriaid diriogaethol iawn. Ni oddefa finc gwrywol wryw arall yn ei diriogaeth, ond ymddengys yn llai ymosodol at fenywod. Yn gyffredinol mae tiriogaethau gwrywod a benywod ar wahan, ond gall tiriogaeth benyw orgyffwrdd ag un gwryw. Ar achlysuron prin gall diriogaeth benyw sefyll yn llwyr ynghanol tirogaeth gwryw. Ymestyn tiriogaethau, sy'n tueddu i fod yn hir a chul, ar hyd torlannau afonydd, neu ar hyd ymylon llynnoedd neu gorsydd. Gall tiriogaeth amrywio o ran maint, hyd at hyd o nifer o filltiroedd. Mae tiriogaeth benywod yn llai na rhai gwrywod.

Mae i bob tiriogaeth un neu ddau barth canolog (parth creiddiol) lle mae'r minc yn treulio mwyafrif ei amser. Cysylltir y parth creiddiol fel arfer â chyflenwad da o fwyd, megis pwll llawn pysgod, neu warin gwningod gynhyrchiol. Gall aros yn y parth creiddiol, a all fod yn eitha bychan, am ddyddiau bwygilydd, tra'n ymweld o bryd i'w gilydd ag ymylon y diriogaeth. Cysylltir yr ymweliadau hyn ag amddiffyn y diriogaeth rhag gwrthwynebwyr. Mae'n debyg bod y minc yn gwirio am arwyddion o finc dieithr gan adael baw yn drwm o'i sawr personol i atgyfnerthu ei hawliau ar y diriogaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Couzens, D ac eraill (2017) Britain's Mammals: A field guide to the mammals of Britain and Ireland The Mammal Society
  2. 2.0 2.1 Mason, G. (1991). "Stereotypies in caged mink". Applied Animal Behaviour Science 30: 179–180. doi:10.1016/0168-1591(91)90103-5.
  3. Schlimme, Kurt. "ADW: Neovison vison: INFORMATION". http://animaldiversity.ummz.umich.edu/site/accounts/information/Neovison_vison.html. Adalwyd 2017-02-28.
  4. Burns, John (2008). "Mink," Alaska Department of Fish & Game.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: