Cwningen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwningen
Amrediad amseryddol:
Eosen Hwyr-Holosen,
53–0 Miliwn o fl. CP
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Is-ffylwm: Vertebrata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Lagomorpha
Teulu: Leporidae
in part
Genera

Pentalagus
Bunolagus
Nesolagus
Romerolagus

Brachylagus
Sylvilagus
Oryctolagus
Poelagus

Mae'r gwningen (llu. cwningod) yn famolyn bychan yn y teulu Leporidae a'r urdd Lagomorpha, sydd i'w cael mewn sawl rhan o'r byd. Mae yna saith gwahanol genera yn y teulu a ddosberthir fel cwningod, yn cynnwys y Cwningod Ewropeaidd (Oryctolagus cuniculus) (Oryctolagus cuniculus), Cwningod Cynffon Cotwm (genws Sylvilagus; 13 rhywogaeth), a'r Gwningen Amami (Pentalagus furnessi, sydd mewn peryg o ddarfod, o Amami Ōshima, Japan). Mae'r gwningen, y picas a'r ysgyfarnog oddi fewn i'r urdd Lagomorpha. Yn weahanol i'r sgwarnog, mae'r gwningen yn byw mewn twll yn y ddaear, a elwir yn 'dwll gwningen'.

Nid yw'r gwningen yn frodorol o wledydd Prydain ond credir iddynt gael eu cyflwyno yno yng nghyfnod y Normaniaid[1] gan nad oes gair brodorol, Frythoneg amdani.

'Ewig' yw'r fenyw (fel gyda charw) a 'bwch' yw'r gair am y gwryw (fel gyda 'bwch gafr' neu garw: 'bwch danas'). 'Lefren' yw'r gwningen fechan a 'lefrod' yw'r lluosog. Tarddiad y gair yw'r Saesneg Canol konyng sy'n tarddu o'r Ffrangeg Normanaidd, fel y benthyciwyd rabbbette hefyd i'r Saesneg, yn eitha diweddar.[2] Yn Rhuthun, Sir Ddinbych ceir hen lwybr a elwir yn Cunning Green, gyda'r gair cyntaf a 'chwningen' o'r un tarddiad. Gelwir y tir wedi ei neilltuo neu wedi ei amgáu, lle megir cwningod, yn 'gwninger' neu'n 'gwningar, sef 'caer y gwningen.

Magu a hela[golygu | golygu cod y dudalen]

Twll cwningen

Yng ngwledydd Prydain, am ganrifoedd, a hyd heddiw i raddau, magwyd cwningod er mwyn eu crwyn a'u cig, fel arfer ar ynys neu gwningar mewn twyni tywod e.e. Bodorgan, Ynys Môn. Erbyn y 18fed ganrif roedd gan lawer o ystadau gwningaroedd arbennig ar eu cyfer. Nid oeddent, fodd bynnag, yn niferus gan fod cynifer o anifeiliaid eraill o gwmpas i'w hela, gan gynnwys y cath wyllt, y ffwlbart, bele'r coed a sawl math o adar ysglyfaethus. Ond wrth i'r anifeiliaid ysglyfaethus hyn gael ei difa gan giperod, cynyddodd y cwningod nes iddynt ddod yn bla. Ar ddechrau'r 20fed ganrif gwelwyd helwyr proffesiynol yn eu dal i'w bwyta. Yn y 1950 ymledodd clefyd y mycsomatosis drwy wledydd Prydain gan ddifa 99% o'u poblogaeth. Ar lafar, dywedir fod rhai pob yn 'magu fel cwningod'.

Poblogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hanner cwningod y byd yng Ngogledd America. Mae nhw hefyd yn frodorol o Ewrop, de-ddwyrain Asia, Swmatra a rhai o ynysoedd Japan a rhannau o Affrica a De America. Nid ydynt i'w cael yn Ewrasia, ble mae'r sgwarnog yn ffynnu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru; 2008); adalwyd Rhagfyr 2015
  2. geiriadur.ac.uk; Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC); adalwyd 22 Rhagfyr 2015
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am cwningen
yn Wiciadur.
Panda template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.