Swllt

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Swllt o Sweden, a fathwyd o 1802 ymlaen.
Swllt o 1948, a gynhyrchwyd yn Lloegr.

Arian cyfred yw swllt, a arferid ei ddefnyddio yng Nghwledydd Prydain, Iwerddon, Awstralia, Awstria, Unol Daleithiau America, Seland Newydd a nifer o wledydd y Gymanwlad. Mae'n parhau i gael ei ddefnyddio fel arian cyfred yn Tansania (Swllt Tansanïa), Kenya, Wganda a Somalia.[1][2][3]

Benthyciad o'r gair Lladin soldus yw 'swllt', a chofnodir y defnydd cyntaf o'r gair yn Gymraeg yn y 13g: Ef a anfones ugein swllt i eglwys Grist yn Dulyn. (Gwaith Gruffudd ap Cynan). Yn yr ieithoedd Celtaidd, ceir: 'sols' (Hen Gernyweg), 'solt' (Hen Lydaweg) a 'saout' (a olygai 'gwartheg' mewn Llydaweg Canol a Diweddar).[4]

Gallai olygu unrhyw werth, ac yng ngwledydd Prydain, yn 1554, daeth i olygu un-ugeinfed (1/20ed) rhan o bunt, sef 12 ceiniog, gan olynu'r testoon. Arferid ei ddynodi gyda'r nodiant mathemategol s neu'r 'symbol 'solidus' / (y slash) e.e. 1/9 oedd u"un swllt a naw ceiniog" a 11/– fydai "un-ar-ddeg swllt". Mae'r defnydd o'r symbol solidus yn dal i gael ei ddefnyddio yn Kenya heddiw, a cheir cynlluniau yn nwyrain Affrica i greu arian cyfred cyffredin, rhwng y gwledydd; yr enw a fathwyd ar ei gyfer yw 'swllt dwyrain Affrica'.[5]

Daeth i ben yng Nghymru a geddill gwledydd Prydain ar 15 Chwefror 1971, pan newidiwyd i system ddegol. Yr hen ddull, hyd at y degoliad, o nodi'r gwerthoedd oedd:

  • punnoedd (£ neu l )
  • sylltoedd (s. neu /-)
  • ceiniogau (d. neu c.)

Gwerth a darnau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd darnau eraill ar gael, hefyd, cyn hynny, gan gynnwys:

  • ffyrling, hanner dimai
  • hatling, hanner ffyrling
  • dimai, sef hanner ceiniog
  • darn tair-ceiniog (3c)
  • darn chwe-cheiniog (6c)
  • y fflorin (dau swllt)
  • hanner coron, dau swllt a chwe cheiniog (2/6), sef un wythfed rhan o bunt, a ddiddymwyd, hefyd yn 1971.
  • coron, pump swllt, y darn a oedd a'r gwerth uchaf yng ngwledydd Prydain yn 1971.

Olynwyd y swllt ar ddiwrnod y degoliad gyda'r darn pum-ceiniog, newydd.

Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1901 ac 1825, gwerth y swllt Gwyddelig oedd 13c, a'i lysenw oedd black hog, oherwydd y gelwid y swllt Seisnig yn white hog. Roedd hyn, wrth gwrs yn rhan o ymdrech Lloegr i gyflyru'r Gwyddelod i gredu eu bod yn ddrwg a'r Saeson yn dda.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Reserve Bank of New Zealand; adalwyd Ionawr 2011
  2. Description of Somalia shilling - adalwyd 8 Hydref 2006
  3. Dissolution of the East African Monetary Union- adalwyd 8 Hydref 2002
  4. Geiriadur Prifysgol Cymru; adalwyd 16 Hydref 2018.
  5. "May and the Slash - English Project". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2017. http://www.englishproject.org/may-and-slash. Adalwyd 27 Ebrill 2018.