Nodiant mathemategol

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Esiampl o nodiant graffigol Penrose; esiamplau symlach yw "a", "b", "c" i gynrychioli cysonion ac x, y, z am anhysbysion[1]
I William Jones (1675 – 1749) mae'r clod am y nodiant π (pi).

Mae nodiant mathemategol yn ddull o gynrychioli syniadau a gwrthrychau gyda symbolau. Defnyddir nodiannau mathemategol mewn mathemateg, a phynciau eraill, megis y gwyddorau ffisegol, peirianneg ac economeg. Mae nodiannau mathemategol yn cynnwys cynrychioliadau symbolaidd cymharol syml, megis y rhifau "0", "1" a "2"; symbolau ffwythiannol megis "tan"; symbolau gweithredol megis "+"; symbolau cysyniadol megis "lim" a "dy /dx"; hafaliadau a newidynnau; a nodiadau diagramatig cymhleth megis nodiant graffigol Penrose a diagramau Coxeter-Dynkin.

Mae nodiant mathemategol yn system ysgrifennu a ddefnyddir ar gyfer cofnodi cysyniadau mewn mathemateg. Mae'n defnyddio symbolau neu ymadroddion symbolaidd y bwriedir iddynt gael ystyr semantig manwl. Dros ddwy fil o flynyddoedd, mae'r symbolau hyn wedi dynodi rhifau, siapiau, patrymau, a newid. Mae'r cyfryngau a ddefnyddir ar gyfer ysgrifennu'r nodiant yn cynnwys deunyddiau cyffredin fel papur a phensil, bwrdd a sialc (neu farciwr), a chyfryngau electronig.

Mynegiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Mynegiant (mathemateg)

Mae mynegiant mathemategol yn gyfres o symbolau y gellir eu gwerthuso. Er enghraifft, os yw'r symbolau yn cynrychioli rhifau, yna mae'r ymadroddion yn cael eu gwerthuso yn unol â gorchymyn gweithrediadau confensiynol sy'n darparu ar gyfer cyfrifo, os yn bosibl, unrhyw ymadroddion o fewn cromfachau, yna unrhyw esbonyddion ac isradd, yna lluosi a rhannu ac yn olaf unrhyw adio neu dynnu, pob un o'r chwith i'r dde. Mewn iaith gyfrifiadurol, mae'r rheolau hyn yn cael eu gweithredu gan y crynoyddion =(compilers).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Efallai mai un o'r nodiannau mathemategol cyntaf i gael ei ddefnyddio, a hynny rai miloedd o flynyddoedd yn ôl (dyweder 50,000), fyddai drwy godi bys sy'n cyferbynnu i wrthrych arbennig e.e. arth, felly tair bys = tair arth. Ymestyniad o hyn fyddai defnyddio cerrig bychan i gynrychioli'r gwrthrychau, neu grafiad ar bren (rhicbren). Ceir y 'testun' cyntaf y gwyddom amdano gan wareiddiad amaethyddol cynnar y Swmeriaid a leolwyd yn Mesopotamia, sef ardal Irac a dwyrain Syria fodern yn y Dwyrain Canol.

Yn eitha diweddar y datblygodd rhai mynegiannau, er enghraifft, ni chafwyd esiamplau o gwbwl o fewn geometreg ddadansoddol tan oes y mathemategwr Ffrengig René Descartes (1596 – 1650). Rhoddir clod am lawer o fynegiannau i Leonhard Euler (1707 – 1783) o'r Swistir, a ddyfeisiodd y nodiant a, b, c am y cysonion, ac x, y, z am anhysbysion[2]. I William Jones (1675 – 1749) mae'r clod am y nodiant π (pi).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. termau.cymru; Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 17 Hydref 2018
  2. termau.cymru; Y Termiadur Addysg - Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 17 Hydref 2018