Bele goed

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Martes Martes
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Mustelidae
Genws: Martes
Rhywogaeth: M. martes
Enw deuenwol
Martes martes
(Linnaeus, 1758)
Dosbarthiad
(gwyrdd – brodorol, coch – ailgyflwynwyd)

Anifail o deulu'r wenci yw'r Bele neu Bela (Martes martes). Mae oddeutu maint cath, tua 53 cm o hyd ac yn pwyso rhyw un cilogram a hanner ar gyfartaledd. Brown yw lliw cyffredinol yr anifail, yn amrywio o frown golau i frown tywyll. Mae'n yn greadur cigysol prin iawn yng Nghymru ac eithriadol o swil.

Skull

Fel rheol maent yn byw mewn ardaloedd coediog yng ngogledd Ewrop. Maent yn hela yn y nos gan amlaf, ac yn dal mamaliaid bychan, adar, wyau, llyffantod ac weithiau aeron. Mae'r Bele yn weddol gyfredin mewn rhai rhannau o'r Alban, ond mae cryn dipyn o ansicrwydd ynghylch ei statws yng Nghymru. Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae cryn nifer o bobl wedi dweud eu bod wedi gweld Bela yn rhannau coediog Eryri, yng Nghoedwig Gwydyr yn arbennig, ond does neb wedi cael llun i brofi hyn. Mae "Bele" neu "Bele" yn elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd.

Heubach pine marten.jpg

Y Bele fel Rheibydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mamoliaid bychan, celanedd, adar, pryfetach a ffrwythau yw bwyd y bele goed.[1] Honnir bod adferiad y bele goed yn gyfrifol am reoli poblogaeth y wiwer lwyd yn y DG ac Iwerddon.[2][3] Lle bo dosbarthiad y bele (sy'n raddol ymledu) yn cyffwrdd poblogaeth y wiwer lwyd, mae'r wiwer yn cilio a'r wiwer goch yn adledaenu. Oherwydd i'r wiwer lwyd dreulio mwy o amser ar y ddaear na'r goch (a gyd-esblygodd â'r bele), credir iddynt fod yn fwy tebygol o ddod i gyffyrddiad a'r rheibydd hwn.[4]. Honnir hefyd bod y wiwer lwyd trwm yn methu a chilio o afael y bele ym mrigau mân y coed fel mae'r wiwer goch ysgafnach yn gallu gwneud.

Arolwg 1987[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1987, cynhaliwyd "arolwg-ddesg" o brofiadau llygad-dystion y bele goed yng Nghymru, trwy ffonio a llythyru cysylltiadau, a chysylltiadau cysylltiau, o bob math, a chyflyru eisteddfotwyr Eisteddfod Porthmadog y flwyddyn honno ar stondin y Cyngor Gwarchod Natur yno. Crynhowyd y canlyniadau mewn llyfryn byr a gyhoeddwyd fel golygiad bychan gan y CGN yn fuan wedyn[5]. Nid adargraffwyd y llyfryn ac fe wasgarwyd y copiau ar y pedwar gwynt. Fe atgynyrchir y testun yn ei gryswth yma o gopi ffeil y llyfryn. Fe olygwyd y testun yn ysgafn ar gyfer yr erthygl hon ac fe gynigir ambell welliant mewn bachau petrual. Ymddengys i'r data amrwd (ee. y llythyrau a dderbyniwyd) gael eu colli yn y cyfamser ar ôl eu rhoi i gorff arbenigol gwirfoddol.

Clawr llyfryn yn cyflwyno canlyniadau arolwg i'r boblogaeth y bele goed yng Nghymru yn 1980au sydd bellach allan o brint

LLYFRYN BELE’R COED[golygu | golygu cod y dudalen]

CYNGOR GWARCHOD NATUR
NATURE CONSERVANCY COUNCIL

Bele'r Coed - Arolwg 1987

Y Canlyniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1987, cynhaliwyd arolwg i gyflwr poblogaeth y bele yng Nghymru. Dyma ganlyniadau'r arolwg, gyda diolch i bawb a gyfrannodd. Dewch a 'chwaneg o wybodaeth inni mae llawer i'w ddysgu am y creadur prin hwn.

Bele'r Coed Martes martes

  • Sut i'w adnabod

Anaml y'i gwelir mewn golau da. Pan yn y coed, mae'n fwy ac yn feinach ei gorff na gwiwer. Ar y ddaear gellid ei gamgymeryd am ffwlbart, ffured neu finc, ond mae'r bele yn fwy, gyda gwddf golau, clustiau amlwg a chynffon flewog iawn. Mae'n debyg i gath fawr gochfrown ond â gwedd carlwm iddi.

  • Dosbarthiad

Er yn prinhau ledled Ewrop, fe geir y bele mewn ardaloedd addas rhwng gwledydd Llychlyn yn y gogledd a pharthau'r Môr Canoldir yn y de, gan gynnwys Cymru. Nis ceir y tu allan i gyfandir Ewrop. Ucheldiroedd yr Alban yw ei gadarnle ym Mhrydain gyda phoblogaethau gwan hwnt ag yma yng Ngogledd Lloegr. Fe ddeil y bele ei dir mewn sawl ardal yn yr Iwerddon.

  • Cynefin

Coedwigoedd yw ei gynefin yn bennaf, ond fe all fyw ar foelydd creigiog yng ngogledd yr Alban. Mae coedwigoedd yn fanteisiol iddo am gyfnodau tra'n tyfu. Yn Rwsia, amrywia'r boblogaeth o 0.2 bele i bob 1000 o erwau mewn planhigfa ieuanc, i 1.5/1000 erw ar ôl i'r coed aeddfedu. Gwell gan y bele goedydd collddail neu gymysg na thrwch di-dor o goed duon.

  • Ymddygiad

Y mae'n ddringwr penigamp, a dringa goeden fel wiwer trwy gofleidio'r bonyn ac yna esgyn yn herciog. Mae'n redwr cyflym am gyfnodau byrion ond anaml y'i ceir yn nofio. Anifail y nos yw ar y cyfan. Gwna ei wâl mewn creigiau, boncyff gwag, hen nyth a hyd yn oed mewn blychod nythu wedi eu gosod ar gyfer tylluanod! Bydd yn paru tua diwedd yr haf gan esgor ar dorllwyth o dri yn y gwanwyn cynnar. Gall grwydro ardal cymaint â 30 km2 yn hel ei damaid ond pan fo bwyd yn ddigonol gwnaiff 300 o erwau y tro.

  • Bwyd

Amrywia'r bwyd yn ôl y tymor, y cynefin, a beth bynnag fydd ar gael, ond fe gynnwys lygod ac adar mân a'u hwyau. Bwyteir chwilod, lindysod, llyffantod, cyrff mares ac aeron coed ar brydiau. Ffurfia wiwerod gyfran bwysig o'i ymborth yng Ngogledd Ewrop.

Yr Oes o'r Blaen[golygu | golygu cod y dudalen]

Pais Dinogad fraith fraith, O grwyn balaod ban wraith ...
Anh. ca. 8ed Ganrif

Mae'n debyg [Mae'n bosibl...] mai'r gân hon, gan fam i'w phlentyn, yw'r cofnod ysgrifenedig cynharaf o'r bele goed yn holl lenyddiaeth Ewrop. Gosodwyd hi ar bapur rhywbryd yn ystod yr wythfed ganrif [cywiriad: 14g.], ac er mai yn y Gymraeg y canai'r fam i'r bachgen Dinogad, nid yng Nghymru ond yng Nghymbria yr oedd cartref y teulu bach.

Beth bynnag am hanes y bele yn y fan honno, bu ei hynt yng Nghymru yn destun dadleuon tan yn ddiweddar.

Bu'n greadur a gwerth iddo erioed; wyth geiniog ar hugain a dalwyd am ei groen yn ôl cyfreithiau Hywel Dda yn yr unfed ganrif ar ddeg, ac fe gafodd brawd o Lanwrin, Powys ddeunaw am gorff saith canrif yn ddiweddarach. Dyma'r manylion a gafwyd o gofnodion y plwyf hwnnw yn y flvvyddyn 1864 (gyda diolch i Mrs. Ellyw Evans, Machynlleth, am dynnu sylw atynt):

Paid
3 bottles of wine 13s 0d
Overseer £1 1s 3d
Mr. E. Owen, for killing a bela 1s 6d
Carrying gravel at 10/ - a day £1 1s 0d

Cael ei wobrwyo am ladd pla oedd braint Mr. Owen erbyn yr oes honno wrth gwrs, nid cael tâl am groen gwerthfawr.

Cafwyd peth wmbredd o sôn am y bele tua throad y ganrif pan ymestynai gorwelion boneddigion Lloegr fwy-fwy i gyfeiriad Cymru. Soniodd George Bolam er engraifft am olion traed bele a welodd rhyw fore o eira yng nghanol pentref Llanuwchllyn. Dilynodd y trywydd dros fryniau'r Aran gan sylwi ar olion llygoden fawr ar y ffordd a reibiwyd gan y bele yng nghysgod hen felin.

Graff yn dangos sut mae cofnodion y bele goed wedi amrywio dros y ddwy ganrif ddiwethaf o lyfryn a gyhoeddwyd yn 1988

Y Bele Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Dengys y graff (Ffigwr 1) i'r mwyafrif o sylwadau gael eu rhoi ar gof a chadw yn ddiweddar iawn. Efallai nad yw hyn ond i'w ddisgwyl a chysidro'r cynnydd a welwyd yn y diddordeb mewn bywyd gwyllt ers y pumdegau. Mae'n amlwg hefyd fod digwyddiadau diweddar yn debycach o ddod i'r amlwg na hen straeon. Camgymeriad felly fyddai ystyried y graff yn fesur syml o gynnydd.

Serch yr amheuon ynglŷn â dehongli'r wybodaeth, fe ymddengys mai'r gogledd yw cadarnle'r bele.

Daeth pob un namyn naw o'r 272 o sylwadau o barthau i'r gogledd o Fachynlleth. Mae'n ddirgelwch hyd yma p'un ai cynrychioli poblogaeth wasgaredig, ynteu ambell anifail caeth a ddihangodd, ynteu camgymeriad, yw'r ychydig a ddaeth i law o'r deheubarth. Yn sicr nid camgymeriad mohonynt i gyd gan mai corff sydd bellach wedi ei gadw yn yr Amgueddfa Genedelaethol yw sail un cofnod o Frycheiniog. A sôn am gamgymeriadau, amhosib yn y pen draw yw penderfynu pa mor ddibynadwy yw'r cofnodion unigol. Nid ymgeisiwyd felly i wahaniaethu rhyngddynt yn yr arolwg ar wahan i nithio ambell ddisgrifiad oedd yn amlwg yn cyfeirio at ffwlbart. Ni wnaethpwyd hynny chwaith cyn ei gytuno gyda'r sylwebydd. Gallasai'r goreuon yn ein plith gamgymeryd y bele yng ngwyll y goedwig nid yn unig am ffwlbart, ond am gath, dyfrgi, minc neu lwynog, and petai hynny wedi digwydd ar raddfa helaeth, ni fyddai'r cofnodion wedi dangos dosbarthiad mor nodweddiadol.

Y BELE GOED map 2: cymhariaeth dosbarthiad y bele a'r ffwlbart yn Nghymru yn ôl Arolwg 1987.
map Bele goed yn dangos lleoliadau a niferoedd cofnodion y bele yng ngogledd Cymru Arolwg 1987

Cymharer yn ffigwr 2 arwahan-rwydd cofnodion y bele a'r ffwlbart, a sylwer hefyd ar y crynhoad o gofnodion mewn ardaloedd arbennig. (Casglwyd y wybodaeth am y ffwlbart dros gyfnod hwy and gyda'r un cydweithrediad gan y cyhoedd.)

Bu amryw mor garedig a chofnodi enwau lleoedd gair bele — neu ystum arno — yn Than o'i gyfan-soddiad. Dyma'r rhai a ddaeth i law:

Bryn Bela - enw ty, Caeathro, Gwynedd
Bryn Bella, Craig Bella - Y Fachwen, Gwynedd
Coed Bella
Bryn Bella - Lloc, Treffynnon, Clwyd.
Gors Bela - Rhoshirwaun
Ffynnon Bela
Nany y Bele - (= ?Nant y Bele), Rhiwabon, Clwyd (Pennant 1810)
Castell y Bele - Dolwyddelan, Gwynedd. (Forrest 1907)
Cappele - enw ffermdy, ardal Cerrig y Drudion

Oes yna fwy ohonynt, tybed?

Ond bellach pwy ŵyr hynt y bele? Cafwyd llawer o gofnodion amdano yn ystod Arolwg '87, rhai oddi wrth Eisteddfodwyr Bro Madog, eraill yn dilyn hysbysrwydd ar Radio Cymru. Bu rhai yn ddigon ffodus i weld y creadur yn herwa yn ei gynefin berfeddion nos, tra chafodd ambell un gorff yn gorwedd yn y gwter ar y ffordd fawr. Dyma grynhoi'r wybodaeth felly, a cheisio cyflwyno yma ddarlun o hynt y bele yng Nghymru yn niwedd yr wythdegau.

O ddidoli'r cofnodion yn ôl eu dosbarthiad daearyddol ac yn ôl pa mor hen neu ddiweddar y bônt, daw darlun eithaf calonogol i'r amlwg. Yn gyntaf gwelir yr hen gadarnleoedd yn parhau heddiw; sef ardaloedd megis Uwch Conwy, Beddgelert a dyffryn y Fawddach a fu'n noddfeydd diogel a gafodd fantais yn sgil sefydlu'r coedwigoedd mawrion yn y cyffiniau. Mae'n bosib i blanhigfa Clocaenog fod yn gyfrifol am beth o'r cynnydd a amlygwyd yn ne Clwyd a gogledd Powys, fel y cafodd y bele hefyd, efallai, fantais yn Eifionydd yn dilyn y mân blannu yno. Yr unig arwydd o golled ar wahan i ogledd ddwyrain Clwyd sydd wedi ei hen ddiwydiannu yw'r prinder o gofnodion diweddar o fro Llanuwchllyn a'r Bala. Does ond gobeithio y bydd pobl y fro honno yn profi anwiredd y map yn hynny o beth yn y blynyddoedd i ddod!

map yn dangos dosbarthiad y bele goed yng Nghymru yn ol arolwg 1987

Y Bele Yfory[golygu | golygu cod y dudalen]

'Deuparth gwaith yw ei ddechrau' medd yr hen air, a dechrau'r gwaith nid ei ddiwedd sydd yma. Ym 1988 comisiynwyd un a chanddo brofiad helaeth o'r bele yn ei wir gadarnle yn yr Alban i wneud arolwg-maes yng Nghymru. Canolbwyntiodd yn ei waith ar yr ardaloedd mwyaf addawol a amlygwyd yn Arolwg '87, ac fe gadarnhaodd yn fuan gywirdeb y wybodaeth a gasglwyd. Ond rhag i neb laesu dwylo, dylid cofio mai anifail sydd yn beryglus o brin o hyd yw bele'r coed ac mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ei ddyfodol.

map yn dangos dosbarthiad olion bele coed go iawn i'w cymharu a chanlyniadau arolwg 1987

Ni wyddys eto beth yw'r rhesymau am ei brinder, nac yn wir as mai ar gynnydd ynteu parhau ar drai y mae. Erfynwn felly ar bawb a gafodd, neu a gaiff, gip ar y creadur hynod hwn, i hysbysu'r Cyngor Gwarchod Natur o'r ffaith rhag blaen. I'r rhai a chanddynt ddiddordeb arbennig, da o beth fyddai iddynt chwilio am olion y bele, ei faw neu olion ei draed ar hyd llwybrau a hwylfeydd y fforestydd. Byddai haenen denau o eira yn hwyluso'r gwaith hwnnw yn fawr. Gyda mwy o wybodaeth am anghenion y bele goed yn ei gynefin yng Nghymru, bydd yn bosib, ymhen amser, i gynllunio ac i neilltuo tir ar ei gyfer, ac hefyd rhyw ddydd efallai ei drawsblannu yn ôl i'r ardaloedd a'i collodd. Ond am y tro o leiaf, fe ddangosodd pobl Cymru, yn Arolwg '87, fod y bele Yma o Hyd.

Duncan Brown
Uwch Warden, Rhanbarth Gogledd Cymru

Ail gyflwyno'r Bele i Gymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl dadlau hir ynglyn ag a ddylid ail gyflwyno'r bele i Gymru fe gyflwynwyd nifer o felaod i Ddyffryn Rheidol dan drwydded yn 2016.

Mewn hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar un adeg bu cryn dipyn o hela'r Bela, gan giperiaid oherwydd eu bod yn bwyta cywion ffestantod a chan eraill oedd eisiau eu crwyn, gan fod y blew o ansawdd arbennig o dda. Erbyn hyn maent yn cael eu hamddiffyn gan y gyfraith yn y rhan fwyaf o wledydd. Ychydig iawn o anifeiliaid eraill sy'n fygythiad i'r Bele; dim ond llwynogod a'r Eryr Euraid fel rheol.

Ceir cyfeiriad cynnar ato o'r Hen Ogledd:

Pais Dinogad fraith fraith
O grwyn balaod ban wraith (Anhysbys, 8g?)

Roedd ei groen yn amrywio yn ei werth: rhwng 24 a 28 ceiniog, yng Nghyfraith Hywel. Cafodd ei hela bron i ddifodiant yn yr 19g. Ei gadarnleoedd presennol yw coedwigoedd conifferaidd a chreigleoedd coediog yn Eryri a Chlwyd yn bennaf, a cheir cofnodion gwasgaredig o'r Canolbarth a'r De-orllewin.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Gwyddoniadur Cymru (Gwasg y Brifysgol).