Coedwig Gwydyr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coedwig Gwydir, yn edrych tua'r Glyderau a'r Carneddau.

Coedwig yn sir Conwy yng ngogledd Cymru yw Coedwig Gwydir, hefyd Coed Gwydir, a weithiau wedi'i chamsillafu Coedwig Gwydyr. "Coedwig Gwydir" yw'r ffurf a ddefnyddir gan y perchenogion, Comisiwn Coedwigaeth Cymru.

Mae'r rhan fwyaf o'r goedwig ar lechweddau dwyreiniol Eryri, o gwmpas Betws-y-Coed, ac mae'n ymestyn i'r gogledd cyn belled a phentref Trefriw ac i'r de i gyffiniau Penmachno. O'r arwynebedd o 72.5 km sgwar, mae tua 49 km sgwar yn goedwig gynhyrchiol. Mae rhwng 700 a 1000 o droedfeddi uwch lefel y môr. Dechreuwyd plannu'r goedwig yn 1921, a cheir nifer o rywogaethau o goed bytholwyrdd yno.

Llynnoedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyn Bodgynydd, Coedwig Gwydry

Ceir cryn nifer o lynnoedd yn y goedwig:

Hanes a natur[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar un adeg roedd cryn dipyn o fwyngloddio am Blwm a sinc yn yr ardal, ac mae gweddillion nifer o'r hen fwyngloddiau i'w gweld. Crwwyd "Llwybr y Mwynwyr" i gysylltu pedair ohonynt, Parc. Hafna, Llanrwst a Cyffty.

Ceir nifer o blanhigion prin yn y fforest, yn enwedig o gwmpas yr hen fwyngloddiau, ac mae hefyd dystiolaeth fod y Bele yn dal i fyw yn y goedwig.

Gwydir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir sawl ffurf ar yr enw 'Gwydir', yn cynnwys 'Gwydyr' a 'Gwyder'. Nid yw'r ansicrwydd am y ffurf gywir yn rhywbeth newydd. Ar ddiwedd llythyr at Ieuan Fardd a ysgrifenwyd yn 1767, mae'r hynafiaethydd Richard Morris (1703 - 1779), un o Forysiaid Môn, yn dweud "Rhowch fy ngharedigol orchymyn at y Cyfaill mwyn Mr. Williams o Wedyr ynte Gwydyr, Gwydir, Gwydr, Gwaedir, Gwaederw etc. etc. Pa un yw'r goreu?".[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Shaw, Donald L. Gwydyr Forest in Snowdonia: a history (Cyfres Forestry Commission Booklet ; no.28, H.M.S.O., 1971) ISBN 0117100102

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hugh Owen (gol.), Additional Letters of the Morrisses of Anglesey (1735-1786), Cyfrol II (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Llundain, 1949).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]