Ysgyfarnog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y sgwarnog Ewropeaidd.

Mamal bychan pedair coes ydy'r ysgyfarnog (neu sgwarnog. Lladin: Lepus europaeus). Gelwir sgwarnog iau na blwydd oed yn lefran. Gall redeg mor gyflym â 45 milltir yr awr.

Yn wahanol i'r cwningen, mae'r sgwarnog yn byw ar wyneb y tir yn hytrach nac o dan y ddaear mewn ffau. Maent yn byw naill ai ar ben eu hunain neu mewn parau. Gellir eu bwyta, er nad oes llawer o saim yn eu cig ac fel arfer cânt eu rhostio.

Cymru a llên gwerin[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir cyfeiriadau niferus mewn chwedlau, e.e. yn Chwedl Taliesin trodd Gwion Bach yn ysgyfarnog i ddianc rhag Ceridwen, a chafodd ysgyfarnog loches rhag yr helfa ym mhlygion gwisg Melangell. Cofnododd Gerallt Gymro, yn 1188, y goel y gallasai gwrach droi'n ysgyfarnog i ddwyn llaeth y gwartheg a cheir amryw fersiwn leol ohoni o'r 19g. Dehonglid y modd y rhedai ysgyfarnog i olygu lwc, anlwc, rhybudd neu farwolaeth ac o'i gweld dylsai gwraig feichiog orchuddio ei cheg rhag i'w phlentyn gael ei eni â thaflod y geg yn hollt.

Arferid ei hela â milgwn neu ei dal mewn “rhwyd gae” i wneud stiw (neu gawl) blasus. Enwau eraill arni yw: ceinach, pry. Cyfeirir at 'hela'r pry' yn y gân werin “Bonheddwr Mawr o'r Bala”.

Cyflwynwyd yr ysgyfarnog fynydd (L.timidus) o'r Alban i ucheldiroedd Eryri a'r Canolbarth yn yr 19g. Mae'n ddigon posib bod nifer fechan o'u disgynyddion yn dal ar y Carneddau hyd heddiw.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am ysgyfarnog
yn Wiciadur.