Troellwr bach
Gwedd
| Troellwr Bach | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Locustellidae |
| Genws: | Locustella |
| Rhywogaeth: | L. naevia |
| Enw deuenwol | |
| Locustella naevia (Boddaert, 1783) | |
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Locustellidae yw'r Troellwr bach, hefyd Telor y gwair (Locustella naevia). Mae'n aderyn mudol, yn nythu yn Ewrop a rhannau tymherol Asia, ac yn gaeafu ymhellach i'r de o ogledd-orllewin Affrica hyd India.
Ei gynefin fel arfer yw llecyn lle ceir tyfiant trwchus ond cymharol fyr. Mae tua 12.5 - 13.5 cm o hyd, ac yn aderyn brown gyda rhesi ar hyd ei gefn. Gall fod yn anodd iawn i'w weld. Mae ei gân yn swnio'n debyg i dröell.
Gall fod yn aderyn gweddol gyffredin mewn cynefinoedd addas yng Nghymru.