Telor Cetti

Oddi ar Wicipedia
Telor Cetti
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Cettiidae
Genws: Cettia
Rhywogaeth: C. cetti
Enw deuenwol
Cettia cetti
(Temminck, 1820)
Cettia cetti

Aderyn sy'n aelod o deulu'r Cettiidae yw Telor Cetti (Cettia cetti). Mae'n nythu yn Ewrop, gogledd-orllewin Affrica a rhannau o dde Asia cyn belled ag Affganistan. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, er bod yr adar yn y dwyrain yn symud tua'r de yn y gaeaf.

Ceir Telor Cetti o amgylch gwlyptiroedd lle ceir llawer o dyfiant. Mae tua 13 – 14 cm o hyd, ac yn aderyn browngoch gyda llinell wen uwchben y llygad. Mae'r ddau ryw yr un fath. Ei brif fwyd yw pryfed.

Enwyd yr aderyn ar ôl y naturiaethwr Eidaleg Francesco Cetti. Dim ond yn gymharol ddiweddar y dechreuodd Telor Cetti nythu yng Nghymru.

Telor Cetti]]