Bwlch Nant yr Arian
![]() | |
Math | ardal, bwlch ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.411667°N 3.84°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Ben Lake (Plaid Cymru) |
![]() | |


Lleolir Bwlch Nant yr Arian ar ffordd yr A44 rhwng Goginan a Phonterwyd, Ceredigion. Yno mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, sy'n cael ei rhedeg gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac, ers 2020 bu'n rhan o Goedwig Genedlaethol i Gymru. Mae nifer o lwybrau cerdded a beicio mynydd o wahanol safon yn cychwyn o'r ganolfan, yn ogystal â llwybr ceffyl.[1]
Mae cyfleusterau'r ganolfan yn cynnwys caffi, siop grefftau, byrddau picnic, maes chwarae, adnoddau addysgol, toiledau, cawodydd a maes parcio. Mae hefyd modd gwylio nifer o adar yn y cuddfanau ger llaw'r ganolfan. Caiff y barcud coch ei fwydo pob dydd am 3 o'r gloch (2 yn y gaeaf), ac mae'n bosib gwylio degau ohonynt ar yr adeg hon.[1]
Cafodd y ganolfan ymwelwyr ei hail-adeiladu yn 2005, a chafodd ei chynllunio i weddu gyda'r tirwedd ac i fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd. Caiff ei gwresogi gan sglodion pren sy'n ddeunydd gwastraff o'r gwaith coedwigaeth ar y safle. Mae'r to wedi ei orchuddio gyda phlanhigion sedum sy'n dal ac yn ffiltro dŵr sy'n cael ei ddefnyddio yn y toiledau a'r orsaf golchi beiciau.
Enillodd y ganolfan Wobr Busnes Ceredigion yn 2006.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Oriel
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth". Cyfoeth Naturiol Cymru.