Coedwig Bwlch Nant yr Arian
Math | nature center, hiking trail |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Melindwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.4111°N 3.8711°W |
Mae Coedwig Bwlch Nant yr Arian yn ganolfan natur ac awyr agored sy'n enwog am ei hamserlen bwydo barcutiaid coch sydd yn atyniad i ymwelwyr. Mae'n cynnwys sawl llwybr cerdded, beicio mynydd a marchogaeth yn ogystal â chaffi a manau chwarae antur.[1] Ers 2020 bu'n rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru.[2]
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Lleolir canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian 9 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth ar hyd y briffordd, A44. Mae'r canolfan ar gopa garth sy'n edrych lawr tua'r gorllewin dros Cwm Melindwr a thuag at Bae Ceredigion. Gan deithio o'r gorllewin o Aberystwyth, mae Bwlch Nant yr Arian yn gweithredu fel porth i fynyddoedd Pumlumon.[1] Mae'n ffinio â chymuned Trefeurig.
Bwydo Barcutiaid Coch
[golygu | golygu cod]Mae'r ganolfan yn enwog am ei barcutiaid cochion. Ym 1999, daeth Bwlch Nant yr Arian yn orsaf bwydo barcutiaid cochion fel rhan o raglen i warchod y nifer bach o farcudiaid oedd yn yr ardal (a Chymru) bryd hynny.
Caiff y barcutiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian yn ddyddiol am 2.00pm yn y gaeaf a 3.00pm yn yr haf.
Gellir gweld cynifer â 150 o farcudiaid yn dod i mewn i gael eu bwydo ‒ mae mwy ohonyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf fel arfer.[1]
Hamdden
[golygu | golygu cod]Llwybrau cerdded
[golygu | golygu cod]Ceir sawl llwybr cerdded yn rhan o'r goedwig:
- Llwybr y Barcud - hyd ¾ milltir, 1.3km. Mae Llwybr y Barcud yn arwain o amgylch ymyl y llyn, lle caiff y barcudiaid cochion eu bwydo bob dydd. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Ar hyd y llwybr ceir cerfluniau o anifeiliaid pren i adlewyrchu bywyd natur yr ardal.
- Llwbyr y Mwynwyr - hyd 1½ milltir/2.3km, mae Llwybr y Mwynwyr yn troelli ar hyd pen y cwm, gan ddilyn ffrwd a arferai gludo dŵr i bweru mwyngloddiau plwm. Ar gopa'r llwybr ceir cerflun 'Gadair y Cawr' sy’n lle gwych i edrych ar yr olygfa. O’r fan yma ewch i lawr ar ardal sydd wedi cael ei phlannu’n ddiweddar â 12,000 o goed brodorol.
- Llwybr y Grib - hyd 2½ milltir/4.1km, ceir golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Elenydd.[1]
Beicio Mynydd
[golygu | golygu cod]Ceir sawl llwybr, ac mae adnodd beicio mynydd yn rhan o apêl y ganolfan a'r goedwig i dwristiaid ac yn rhan o strategaeth bwrpasol marchnata Cymru gan Croeso Cymru.[3]
- Llwybr Arian - hyd 7.9km, cyfanswm y dringo: 160 medr (graddiant mwyaf: 12%). Mae’r Llwybr Arian yn eich arwain at lyn Blaenmelindwr.
- Llwybr Melindwr- hyd oddeutu 5km gyda graddiant dringo o 110m.
- Llyn Pendam - hyd 10.2km, dringfa 220m. Mae Llwybr Pendam yn cyfuno rhannau o Lwybrau Summit a Syfydrin.
- Llwybr Summit - hyd 18.5km, dringfa 515m.
- Llwybr Syfydrin - hyd 36km gyda dringfa 670m.[1]
Llwybrau rhedeg
[golygu | golygu cod]Ceir dau lwybr rhedeg pwrpasol. Enwyd llwybrau Y Fuwch a’r Llo ar ôl pâr o feini hirion trawiadol yn yr ardal sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd.
- Y Llo - hyd 3 milltir, 4.9km, cymhedrol.
- Y Fuwch - 6½ milltir, 10.5 cilometr, anodd. [1]
Llwybr Marchogaeth
[golygu | golygu cod]Ceir llwybr benodol ar gyfer marchogaeth.
- Llwybr Mynydd March - hyd 6½ milltir, 10.7km. Mae’r llwybr wedi ei arwyddo ac sydd wedi ei enwi ar ôl bryn lleol (Mynydd March). Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Phumlumon Fawr, mynydd uchaf y Canolbarth.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 "Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth". Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyrchwyd 5 Mai 2023.
- ↑ "Coedwig Genedlaethol Cymru: safleoedd coetiroedd". Gwefan Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 4 Mai 2023.
- ↑ "Bwlch Nant yr Arian". Mountain Bike Wales. Cyrchwyd 5 Mai 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Bwlch Nant yr Arian fel rhan o wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
- Bwlch Nant yr Arian tudalen Facebook