Trefeurig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cyfesurynnau: 52°26′29″N 3°58′37″W / 52.4414°N 3.97708°W / 52.4414; -3.97708
Trefeurig
Ysgol Trefeurig - geograph.org.uk - 928583.jpg
Yr hen ysgol
Trefeurig is located in Ceredigion
Trefeurig

 Trefeurig yn: Ceredigion
Poblogaeth 1,771 [1]
Cyfeirnod grid yr AO SN175465
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost ABERYSTWYTH
Rhanbarth cod post SY23
Cod deialu 01970
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Cynulliad Cymru Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion

Cymuned yng ngogledd Ceredigion yw Trefeurig. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Aberystwyth. Mae'r gymuned yn cynnwys pentref Penrhyn-coch, sydd i bob pwrpas yn un o faesdrefi Aberystwyth. Yma mae Brogynin, lle dywedir i'r bardd Dafydd ap Gwilym gael ei eni, a phlasdy Gogerddan, sydd nawr yn gartref i IBERS (Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig). Ceir nifer o hen fwyngloddiau plwm yma hefyd. Yn ogystal â bod yn gymuned mae Trefeurig yn blwyf eglwysig hanesyddol. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,675.

Ffin bresennol y gymuned[golygu | golygu cod y dudalen]

Pen gorllewinol y plwyf yw ei man isaf hefyd, yn is na 20m uwchlaw'r môr. Dyma'r man y mae nentydd Peithyll a Chlarach yn cwrdd wrth ymyl Pont Rhyd-hir, sef pont y rheilffordd ar yr A487. Mae'r ffin yn mynd ar hyd Nant Clarach am ychydig cyn dringo drwy goedwig Gogerddan, yna ar hyd y fron islaw Caer Broncastellan nes cyrraedd y ffordd o Bow Street i Font-goch. Â ymlaen ar hyd y ffordd honno nes troi am ffarm Elgar a dilyn y nant heibio hen weithfeydd mwyn Elgar a Mynyddgorddu a thrwy hen gronfa ddŵr y gweithfeydd. Yna mae'r ffin yn troi am y de dros Fanc Troedrhiwseiri nes cyrraedd afon Stewi. Yno mae'n troi am y dwyrain eto gan ddilyn afon Stewi islaw Caer Pen y Castell i'w tharddiad, ac ymlaen dros Fanc y Garn, ychydig i'r gogledd o'r copa, sydd 437m uwchlaw'r môr, y man uchaf yn y gymuned. Mae'n mynd trwy goedwig sy'n berchen i Gyfoeth Naturiol Cymru (y Comisiwn Coedwigaeth gynt), nes cyrraedd glan Llyn Syfydrin ym mhen dwyreiniol y gymuned. Yno mae'n troi am y de ar draws y gweundir nes cyrraedd heol Ponterwyd nepell i'r gorllewin o feini hirion y Fuwch a'r Llo. Mae'n dilyn y ffordd hyd nes cyrraedd Llyn Blaenmelindwr ac yna'n dilyn y lôn heibio Llyn Rhosgoch hyd at flaen Cwmerfyn. Mae'n dilyn llethrau deheuol y cwm am y môr nes cyrraedd y ffordd o Gwmerfyn i Gapel Madog. Yna mae'n dringo heibio Ysgubornewydd, yna'n troi i'r gorllewin uwchben dyffryn Madog hyd nes croesi'r ffordd i Benllwyn, yna croesi afon Peithyll a chwrdd â'r ffordd i Gapel Dewi wrth ymyl yr Orsaf Ymchwil i'r Ionosffer. Mae'r ffin yn gadael y ffordd nepell cyn cyrraedd Capel Dewi gan ddilyn afon Peithyll trwy goedwig fach Pwll Crwn hyd at ymyl Pont Rhyd-hir.[2]

Mae 5 o gymunedau yn ffinio cymuned Trefeurig, sef Tirymynach, Ceulanmaesmawr, Blaenrheidol, Melindwr, a Faenor.

Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhostir yw'r tir mynyddig ar ben dwyreiniol y gymuned, ar gyrion Elenydd. Mae'n dir agored heblaw am y coedwigoedd pinwydd a blanwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth gan ddechrau yn y 1930au. Gorwedd tair cronfa ddŵr ar y tir uchel yma, Llyn Pant-rhyd-ebolion (a elwir hefyd yn 'Llyn Pendam'), Llyn Blaenmelindwr a Llyn Rhosgoch. Adeiladwyd y dair cronfa a chronfa Pen-cefn er mwyn cyflenwi dŵr i'r mwynfeydd. Cymdeithas Bysgota Aberystwyth sydd yn gweinyddu'r hawliau pysgota ar lynoedd Rhosgoch a Blaenmelindwr.[3]

Yn ogystal â choedwigoedd Cyfoeth Naturiol Cymru, y mwyafrif ohonynt yn binwydd, mae coedwigoedd coll-ddail a choedwigoedd cymysg i gael yn Nhrefeurig, ar lethrau serth yn bennaf ac ar lannau'r afonydd. Gadawodd rhewlifoedd Oes yr Iâ waddod o raean ar lawr gwastad y dyffryn ar yr iseldir, a haenen o glai. Tir pori wedi'i wella yw gweddill y tir, yn cael ei ddefnyddio i bori defaid a gwartheg. Defnyddir peth o'r tir yn arbrofion IBERS. Gwrychoedd ar ben cloddiau (shetinoedd) sy'n rhannu'r caeau ar yr iseldir gan amlaf, a ffensis gwifrog sydd yn yr ucheldir ac ambell i wal gerrig.[4]

Mae pump o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) yn Nhrefeurig. Mae tri ohonynt, sef Cwmsymlog, Mwyngloddfa Darren a Mwyngloddfa Llechweddhelyg, ar diroedd yr hen weithfeydd mwyn. Fe gliriwyd llawer o wastraff y mwynfeydd yn ystod y 1990au, ond fe erys peth gwastraff o hyd, yn enwedig yng Nghwmsymlog. Mae planhigion a chennau anarferol yn tyfu ar y safleoedd hyn, sydd yn gallu goddef lefelau uchel o fetalau yn y ddaear. Mae natur y mwynau hefyd o ddiddordeb yn y safleoedd hyn. Rhostir sych yw sail y diddordeb yn SSSI Banc Llety-spence, cynefin prin yng Ngheredigion. Glaswelltir asidaidd sych a glaswelltir asidaidd corsiog sydd o ddiddordeb ar Waun Troed-rhiw-seiri. Saif y rhan fwyaf o’r SSSIs ar dir preifat, ond mae mynediad i'r cyhoedd i SSSI Cwmsymlog.[5]

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Penrhyn-coch a Phen-bont Rhydybeddau, a phentrefannau Salem, Llwyn Prysg, Pen-rhiw-newydd, Cwmsymlog, Cwmerfyn, Banc-y-Darren a Chefn Llwyd. Mae 5 o eglwysi yn y gymuned, sef Eglwys Sant Ioan (yr Eglwys yng Nghymru), Eglwys Horeb (Bedyddwyr), Eglwys Salem (Annibynwyr), Eglwys Siloa, Cwmerfyn (Annibynnol), Capel Madog (Methodistiaid Calfinaidd). Mae ysgol gynradd gymunedol ym Mhenrhyncoch, a hefyd Neuadd, clwb pêl-droed sy'n chwarae ar Gae Baker a chlwb cymdeithasol ganddi, maes chwarae i blant, a maes chwarae. Mae gan Ben-bont Rhydybeddau faes chwarae hefyd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod meysydd parcio a llwybrau troed yn y coedwigoedd yng Ngogerddan a Phwll Crwn. Maent hefyd wedi gosod meysydd parcio a llwybrau beicio a cherdded ar y tiroedd o gwmpas y llynnoedd yng ngorllewin y gymuned.[6] Saif gorsaf fesur y tywydd Gogerddan rhwng IBERS a'r briffordd ers 1953. Cynhelir Eisteddfod a Sioe yn flynyddol yn Neuadd Penrhyncoch.

Daeareg[golygu | golygu cod y dudalen]

Simne hen waith mwyn Cwmsymlog

Mae’r creigiau yn naear Trefeurig yn deillio o ddechrau’r oes Silwraidd, o’r oesau Aeronaidd a Thelychaidd yng nghyfres Llanymddyfri. Cerrig llaid a silt yw’r rhain.[7] Digwyddodd sawl cyfnod o blygu yn y graig, o’r Oes Defonaidd i’r Oes Permaidd, a achosodd i ffawtiau ymddangos yn y graig. Llanwodd y ffawtiau gyda hylif poeth a wasgwyd trwy’r craciau o’r ddaear islaw. Cwarts sydd yn llanw’r ffawtiau yma yn bennaf, gyda pheth mwynau o blwm, arian, sinc a chopr. Mae canran y gwahanol fwynau yn wahanol o wythien i wythien. Mae gwythien Cwmsymlog yn gymharol drwm o arian[8] a gwythien y Daren yn gymharol drwm o gopr.[9][10]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y cyfnod cyn-hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae olion bod pobl wedi byw ym mro Trefeurig ers Oes Newydd y Cerrig. Yn 1986 cloddiodd archeolegwyr safle ar dir Gogerddan yn y cae trionglog rhwng yr A4159 ac IBERS. Darganfyddwyd safle claddu a seremoniau a ddefnyddiwyd o'r cyfnod Neolithig hyd at gyfnod yr Oesoedd Canol Cynnar. Grawn wedi llosgi oedd yr olion cynharaf, mewn pydew, sy'n dangos bod grawn yn cael ei dyfu gerllaw. Roedd yno hefyd faen hir, crugiau crwn, tyllau pyst, olion corfflosgi o Oes yr Haearn, a beddau ac olion cell o'r Oesoedd Canol Cynnar,[11] efallai o oes Sant Padarn, tua canol y 6g.[12] Gwyddwn bod y maen hir, a maen hir arall yr ochr arall i'r briffordd yn cael eu defnyddio gan deulu Gogerddan i ddynodi llinell dechrau'r rasys ceffylau a gynhalient yma yn ystod y 18g. Nid oes sicrwydd felly a ydy'r meini hirion hynny yn sefyll yno ers cyn hanes. Mae meini hirion eraill yn sefyll yma a thraw ar dir y gymuned ers cyn hanes, gan gynnwys Garreg Hir (Cyf. Grid SN703835) a Cherrig-yr-Wyn (Cyf. Grid SN685836). Yn 1923 symudwyd maen hir cwarts o Fanc Troed-rhiw-seiri i sgwâr y pentref i fod yn gofeb i feirwon y rhyfel byd cyntaf.[13] Fe gloddiwyd y crug cylchog sydd gerllaw safle gwreiddiol y maen hwn yn 1955, gan ddod o hyd i fedd o'r Oes Efydd Cynnar, ac amlosgiad o gyfnod y Rhufeiniaid. Roedd carn o gerrig ar Gae Baker eisoes wedi cael ei gloddio yn 1851 wrth glirio'r twmpath er mwyn aredig y cae. Darganfuwyd yno rhai esgyrn a phin tlws metal a llestr pridd a chwalodd wrth gydio ynddo.[14] Mae fflintiau ac offer cyntefig eraill wedi eu darganfod yma a thraw yn y dyffryn yng nghyffiniau Plas Gogerddan.[15] Yn 1994 darganfyddwyd pydew a cherrig wedi'u llosgi ynddo ym Mhenrhyn-canol tua 40m i'r de o Nant Seilo (Cyf. Grid SN642839). Tybir y byddai twmpath llosg wedi sefyll wrth ymyl y pydew yn yr Oes Efydd, ond bod gwaith aredig wedi ei chwalu ers hynny.[16] Mae twmpath llosg arall i gael yng Nghwm Sebon. Mae nifer o garnau i gael yn Nhrefeurig hefyd, gan gynnwys Garn Wen ar Fanc Cwm-isaf, carn Dolgau ar Fanc Trawsnant a charnau yng Nghaer Daren.

Pan ddaeth Lewis Morris i Gwmsymlog yng nghanol y 18g, adroddodd iddo weld olion hen ddull mwyngloddio yng ngwaith Twll-y-mwyn, Cwmsebon, ac offer cerrig yr honnai eu bod yn perthyn i fwynwyr cyn-hanesyddol. Gan nad oedd y creiriau hyn ar gael erbyn yr 20g, bu cryn ansicrwydd ynglŷn â'r honiadau hyn.[17] Ond ers diwedd yr 20g mae gwaith archaeolegol newydd wedi cael hyd i nifer o weithfeydd mwyn o Oes yr Efydd yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonynt yn Elenydd. Yn 2005 cafwyd hyd i ragor o forthwylion carreg ar ymylon gwaith Twll-y-mwyn, a thystiolaeth arall yn cadarnhau bod mwyngloddio yn digwydd yno yn Oes yr Efydd.[18][19]

Sefydlwyd bryngaerau yn Nhrefeurig yn ystod yr Oes Haearn, ym Mhen-gaer uwchlaw iard y bysys, a’r Daren. Daeth amlinelliad o gaer arall i’r golwg ger Alltfadog pan wnaethpwyd arolwg o’r awyr.[20]

Mae Sarn Helen yn croesi Trefeurig ar y ffordd rhwng caerau Rhufeinig Penllwyn ar lan afon Rheidol, trwy Penrhyn Canol ac heibio’r Cwrt, i Dalybont.[21] Yn 1998 darganfyddwyd celc o arian bath Rhufeinig wrth ymyl y ffordd ger Salem. Tybir iddo gael ei guddio yn negawd olaf y trydydd ganif OC.[22][23] Mae’r arian i’w weld yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.

Y cyfnod hanesyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Twmpath Castell Ystrad Peithyll, Rhosgoch

Yn ystod cyfnod goresgyn gogledd Ceredigion gan y Normaniaid ar ddechrau’r 12g, codwyd Castell Ystrad Peithyll ganddynt (Cyf Grid SN623824). Gosodasant dŵr pren ar ben twmpath a’i amgylchynu â ffos. Llosgwyd y castell gan fyddin Gruffydd ap Rhys ap Tewdwr yn ystod gwrthryfel 1116.[24]

Yn ystod yr Oesoedd Canol, perthynai bro Trefeurig i gantref Penweddig. Rhanwyd y cantref yn 3 cwmwd, gan gynnwys Genau’r Glyn i’r gogledd o Afon Clarach a Pherfedd i’r de o afon Clarach hyd at afon Rheidol. O ran y drefn eglwysig Rhufeinig, roedd tir Trefeurig yn rhan o blwyf Llanbadarn Fawr. Gan fod y plwyf yn enfawr, fe’i rannwyd yn drefgorddau neu barseli gweinyddol, gan gynnwys trefgordd Trefeurig. Bryd hynny ymestynai Trefeurig heibio Pumlumon, gan gynnwys peth tir sydd heddiw ym Mhowys.[25] Yn 1894 sefydlwyd plwyfi sifil ym Mhrydain, gan gynnwys Plwyf Trefeurig, pob un a’i gyngor plwyf ei hunan. Roedd goruchwylion y cyngor plwyf yn cynnwys trwsio ffyrdd, diogelu hen siafftau a adawyd yn agored pan gaewyd y mwynfeydd a chyflenwi dŵr glân i’r trigolion. Cyngor y Plwyf oedd yn gyfrifol am godi pont Ty’n-gelli ar draws Nant Seilo yn 1924, ond erbyn codi’r bont newydd yn 1991 roedd llawer o gyfrifoldebau cynghorau plwyf wedi eu symud i’r cynghorau sir. Ar draul y Cyngor Sir felly y codwyd pont 1991.[26] Newidiodd teitl Trefeurig o Blwyf Trefeurig i Gymuned Trefeurig yn 1972, yn ôl termau Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cafwyd adrefnu ffiniau’r gymuned yn 1987, gan ymestyn ffiniau’r plwyf ychydig i’r gogledd o Afonydd Clarach a Stewi, ac i’r de i diroedd Parsel Canol gynt, a chan grebachu ffin dwyreiniol y plwyf yn sylweddol.[27]

Mwyngloddio[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhestr mwynfeydd Trefeurig[golygu | golygu cod y dudalen]

Enw'r gwaith mwyn Cyfeirnod grid Prif fwynau Dyddiad cau Gweithlu Nodiadau
Bronfloyd SN660835
Bwlch Cwmerfyn SN703825 Plwm, Arian 1885
Caenant SN708828 Plwm 1850
Cerrigyrwyn SN687838 Plwm
Cwmdarren SN681833 Copr, Plwm 1869
Cwmerfin SN695828 Plwm, Arian, Copr, Zinc 1889
Cwmsebon SN684830
Cwmsymlog SN699837 Plwm, Arian 1901
Daren SN675828 Plwm, Arian, Copr 1879 hefyd Daren Fawr
Gwaithyrafon SN689839
Llechweddhelyg SN683847 Plwm 1861
Llechweddhen SN664836 Plwm 1853
Penycefn SN657856 Plwm, Zinc, Arian 1891 hefyd Court Grange
Pwllrhenaid SN706823 Plwm, Arian 1885
Rhosgoch SN658826 1873
Twll-y-mwyn SN684836 Unwyd gyda Chwmdarren erbyn 1850

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[28][29][30][31]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trefeurig (pob oed) (1,771)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trefeurig) (967)
  
56.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trefeurig) (1151)
  
65%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Trefeurig) (208)
  
28%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Drefeurig[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dafydd ap Gwilym – bardd. Ganed Dafydd ap Gwilym ym Mrogynin ar lan afon Stewi. Mae nifer o enwau llefydd y fro yn ymddangos yn ei gerddi, megis Cwmbwa a Gogerddan.[32]
  • Lewis Morris – hydrograffwr, llenor, ysgolhaig. Daeth i fyw i'r fro pan y'i benodwyd yn stiward mwyngloddiau'r goron yng nghanolbarth Cymru. Bu’n byw yng Nghwmsymlog ac yna o 1746 hyd 1757 yng Ngalltfadog.
  • Syr Carbery Pryse, Gogerddan – perchennog mwynfeydd[33]
  • David Jenkins – llyfrgellydd, awdur.
  • Niall Griffiths – awdur[34]
  • Linda Griffiths – cantores
  • Daniel Huws - ysgolhaig

Ffilmiau a lleoliad ffilmio[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Jenkins, David (1992). Bro Dafydd ap Gwilym. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.
  • Davies, Elfed a Brian (2012). Salem Soldier. Brian Davies a'r Lolfa Cyf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyfrifiad 2011
  2.  Map y Gymuned a Byw Ceredigion. Cyngor Sir Ceredigion. Adalwyd ar 2014-05-29.
  3.  Lakes - Aberystwyth Angling Association. www.aber-angling.co.uk. Adalwyd ar 2014-05-31.
  4.  Disgrifio Nodweddion Tirweddau Hanesyddol Gogledd-Orllewin Ucheldir Ceredigion. www.dyfedarchaeology.org.uk. Adalwyd ar 2014-05-31.
  5.  Cwmsymlog. Cyngor Cefn Gwlad Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru). Adalwyd ar 15 Mehefin 2014.
  6.  Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian. Cyfoeth Naturiol Cymru. Adalwyd ar 2014-05-31.
  7. ’’Creigiau Cymru’’, British Geological Survey, Natural Environment Research Council, 1994
  8.  Site Name: Cwmsymlog Mine. www.geologywales.co.uk. Adalwyd ar 15 Mehefin 2014.
  9.  JS Mason: The Genesis of the Central Wales Orefield. www.geologywales.co.uk. Adalwyd ar 15 Mehefin 2014.
  10.  About Geodiversity. www.geologywales.co.uk. Adalwyd ar 15 Mehefin 2014.
  11. Toby Driver, Barrows, Cropmarks & Lewis Morris: An Early Bronze Age Ritual Complex Discovered at Dollwen, Goginan, Ceredigion, Ceredigion, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Ceredigion Cyfrol XVI Rhifyn 1, 2009
  12. Jenkins 1992, t. 20
  13. Jenkins 1992, t. 18
  14. Jenkins 1992, t. 19
  15. Driver a Charnock, Studia Celtica XXXV, 2001
  16. Some Recent Archaeological Discoveries in the Aberystwyth District, Ceredigion Cyfrol XIII Rhifyn 1, 1997
  17. Jenkins 1992, t. 49
  18. S Timberlake, Excavation of Early Mines Workings at Twll-y-mwyn (Cwm Darren) and Erglodd, Ceredigion, Archaeaology in wales 56, t.79-80, 2006
  19.  Twll y Mwyn. Grwp Ymchwil Mwyngloddio Hynafol. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
  20.  Alltfadog South Enclosure. Coflein. Adalwyd ar 14 Mehefin 2014.
  21. Richard Colyer, Roads & Trackways of Wales, Moorland Publishing, 1984
  22. JL Davies & TG Driver, The Discovery of a Roman Coin Hoard at Salem, Ceredigion Cyfrol XIII Rhifyn 3, 1999
  23.  Salem. Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Adalwyd ar 15 Mehefin 2014.
  24. Jenkins 1992, t. 27
  25. Jenkins 1992, t. 13
  26. Jenkins 1992, t. 112
  27.  Hanes Trefeurig. www.trefeurig.org. Adalwyd ar 15 Mehefin 2014.
  28. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  29. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  30. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  31. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
  32. Jenkins 1992, t. 41
  33. Jenkins 1992, t. 55
  34.  Detholiad o Awduron ac Artisitiaid Lleol. www.trefeurig.org.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: