David Jenkins (llyfrgellydd)

Oddi ar Wicipedia
David Jenkins
Ganwyd29 Mai 1912 Edit this on Wikidata
Cwm Clydach Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mawrth 2002 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllyfrgellydd, hanesydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Llyfrgellydd ac ysgolhaig Cymreig oedd David Jenkins (29 Mai 19126 Mawrth 2002). Roedd yn Gymro Cymraeg. Fe'i cofir fel awdur bywgraffiad cofiant i'w gyfaill T. Gwynn Jones.[1]

Roedd yn frodor o Flaenclydach yn y Rhondda. Symudodd gyda'r teulu, yn hogyn ysgol, i Geredigion. Ar ôl graddio o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle roedd yn un o fyfyrwyr olaf T. Gwynn Jones, fe'i penodwyd i staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu'n Brif Lyfrgellydd yno o 1969 hyd ei ymddeoliad yn 1979.[1] Yn 1971 cafodd ei wneud yn Athro Cymrodorol Anrhydeddus yn ei hen goleg.[2]

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Gwasg Gee, 1973)
  • (gol.), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Abertawe: C. Davies, 1978)
  • (gol.), Bro a Bywyd: T. Gwynn Jones 1871-1949 (Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984)
  • Bro Dafydd Ap Gwilym (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: 1992)
  • O Blas Gogerddan i Horeb (Taith Dwy Ganrif) (Gwasg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1993)
  • A Refuge in Peace and War: The National Library of Wales to 1952 (Gwasg Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2002)
  • Ar Lafar, Ar Goedd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion: 2007)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru
  2. David Jenkins, Thomas Gwynn Jones. Nodyn clawr.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.