Capel Dewi, Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Capel Dewi, Aberystwyth
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.4291°N 4.0486°W Edit this on Wikidata
Cod OS SN608832 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)
Erthygl am le yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Capel Dewi (gwahaniaethu).

Pentref bychan tua 3 milltir i'r dwyrain o Aberystwyth, Ceredigion, yw Capel Dewi. Saif ar groesffordd ar ffordd yr A4159.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Codwyd Castell Ystrad Peithyll ger Capel Dewi gan y Normaniaid yn y 1110au.

O 1746 hyd 1757 bu'r llenor a hynafiaethydd enwog Lewis Morris yn byw yng Ngalltfadog ger y pentref. Roedd yn dirfesurydd ar waith plwm yr ardal.

Sefydlwyd capel y pentref ar ddiwedd y 18g. Ar ddechrau'r 19g dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yno mewn lle o'r enw Tafarn Fagl Ganol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]


WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014