Gwaun Troed-rhiw-seiri a Llyn Mynydd-gorddu

Oddi ar Wicipedia
Gwaun Troed-rhiw-seiri a Llyn Mynydd-gorddu
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd10.83 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.4539°N 3.956°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Gwaun Troed-rhiw-seiri a Llyn Mynydd-gorddu, yng nghymunedau Trefeurig a Cheulan-a-Maesmor yng ngogledd Ceredigion, wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 29 Rhagfyr 1982 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 10.83 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Disgrifiad y SoDdGA[golygu | golygu cod]

Ceir yn y SoDdGA gymysgedd o gynefinoedd gwahanol sy'n cynnal amrywiaeth helaeth o lystyfiant, gan gynnwys torreth o flodau drilliw'r mynydd mewn amryfal liwiau. Glaswelltir mynydd heb ei wella sydd yma, ar dir sych asidaidd ar ben y llethr, ar uchder o 220m, a glaswelltir corsiog asidaidd o gwmpas y llyn a'r nant islaw. Mae Llyn Mynydd-gorddu yn llyn oligotroffig gydag is-haen fawnog. Mae'n gymharol brin o faetholion ac felly'n cynnal planhigion anghyffredin sy'n ffynnu yn y fath gynefin. Ar y safle ceir hefyd cors siglennaidd, mignenni, trylifiadau, prysgwydd a tharddellau.

Dynodwyd y safle yn SoDdGA ar 29 Rhagfyr 1982 yn ôl y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nid oes mynediad i'r cyhoedd i'r safle.

Planhigion y SoDdGA[golygu | golygu cod]

  • Peisgwellt y waun (Festuca ovina)
  • Briwydd y rhostir (Galium saxatile)
  • Llysiau’r groes (Polygala serpyllifolia)
  • Fioled y mynydd (Viola lutea)
  • Ffyngau o nifer o rywogaethau
  • Perwellt y gwanwyn (Anthoxanthum odoratum)
  • Grugwellt (Sieglingia decumbens)
  • Hesg cynnar (Carex caryophyllea)
  • Fioled gyffredin (Viola riviniana)
  • Cloch yr eos (Campanula rotundifolia)
  • Tresgl (Potentilla erecta)
  • Effros (Eurphrasia sp)
  • Pys y ceirw (Lotus corniculatus)
  • Clychau’r gog (Endymion non-scriptus)
  • Cnau daear (Conopodium majus)
  • Gwreiddiriog (Pimpinella saxifraga)
  • Tafod y neidr (Ophioglossum vulgatum)
  • Lloerlys (Botrychium lunaria)
  • Eithin (Ulex europaeus)
  • Rhedyn (Pteridium aquilinum)
  • Dyfrllys llydanddail (Potamogeton natans)
  • Marchrawn yr afon (Equisetum fluviatile)
  • Tinboeth (Polygonum hydropiper)
  • Hesg gylfinfain (Carex rostrata)
  • Helyg crynddail (Salix atrocinerea)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]