Sleep Furiously

Oddi ar Wicipedia
Sleep Furiously
Teitl amgen The Library Van (teitl gweithiol)
Cyfarwyddwr Gideon Koppel
Cynhyrchydd Margaret Matheson / Gideon Koppel
Cerddoriaeth Aphex Twin
Sinematograffeg Gideon Koppel
Golygydd Mario Battistel
Sain Chris King, Richard Davey, Joakim Sundström
Dylunio
Cwmni cynhyrchu ‘Asiantaeth Ffilm Cymru’ mewn cydweithrediad â ‘bard entertainments ltd’ a ‘van film ltd’
Amser rhedeg 94 munud
Gwlad Cymru / DU
Iaith Saesneg / Cymraeg

Ffilm ddogfen a ryddhawyd yn 2008 ydy Sleep Furiously. Gideon Koppel oedd y cyfarwyddwr.

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Dogfen yw hon am gymuned wledig Trefeurig nepell o Aberystwyth. Mae’n ddogfen artistig sy’n symud yn araf ar draws blwyddyn yng nghwmni’r trigolion, gan ddefnyddio John Jones, ceidwad y llyfrgell deithiol fel llinyn storiol, a chawn weld ei fan felen yn symud fel malwen osgeiddig ar draws ehangder y tirlun. Rhoddir sylw hefyd i Pip, mam y cyfarwyddwr, a setlodd gyda’i diweddar ŵr yn yr ardal wedi iddynt ffoi o’r Almaen adeg yr Ail Ryfel Byd. Daw teitl y ffilm o ddyfyniad gan Noam Chomsky, "colourless green ideas sleep furiously" i ddarlunio brawddeg sy’n gywir yn ramadegol, ond yn gwneud dim synnwyr. Gellid honni nad yw ffilm Koppel yn gwneud synnwyr ar un olwg, ond fel cyfanwaith mae’n llwyddo i gyfleu y gymuned. Ceir teimlad o "gofnodi cyn ei bod yn rhy hwyr" sy’n rhoi blas o dristwch i’r gwyliwr, ac atgyfnerthir hyn gan y gerddoriaeth a dyfyniad a welir ar y sgrîn tuag at ddiwedd y ffilm – "It is only when I sense the end of things that I find the courage to speak, the courage but not the words".

Manylion technegol[golygu | golygu cod]

Fformat saethu: Super 16mm/35mm

Lliw: Lliw

Cymhareb agwedd: 1.85:1

Lleoliadau saethu: Trefeurig, Cymru.

Gwobrau: Gwobr Ffilm Gyntaf The Guardian 2010

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Adolygiadau[golygu | golygu cod]

  • Mark Ford, The Guardian, 9 Mai 2009 ("Time just spins around")
  • Jonathan Romney, The Independent on Sunday, 31 Mai 2009
  • Sukdhev Sandhu, The Telegraph, 28 Mai 2009
  • Sight and Sound, Mehefin 2009 (The Hills are Alive)

Erthyglau[golygu | golygu cod]

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Sleep Furiously ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.