Ynys Lawd
![]() | |
Math | pont grog, pont droed, ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 0.03 km² ![]() |
Gerllaw | Môr Iwerddon ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3068°N 4.6988°W ![]() |
Hyd | 0.26 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys fach ar benrhyn mwyaf gorllewinol Ynys Gybi, ar Fôn, ydy Ynys Lawd, a gysylltir ag Ynys Gybi gan bont fach, tua milltir i'r gorllewin o Fynydd Twr. Mae yng nghymuned Trearddur. Mae llwybr, gyda 400 o grisiau, yn disgyn i’r bont, 30 medr o hyd ar draws y môr i’r ynys. Ymgylchynu’r ynys gan glogwyni llithfaen, yn codi hyd at 60 medr uwchben y môr.[1] Mae mynediad i gŵn ar yr ynys.
Enw[golygu | golygu cod]
Daw'r enw Saesneg South Stack o'r gair Sgandinafaidd stak, sef "ynys" (gweler hefyd Ynys Arw, a elwir North Stack yn Saesneg). Ystyr arferol y gair Cymraeg lawd yw "gwres", sef gwres anifeiliad yn neilltuol, ond mae arwyddocâd yr enw yn yr achos hwn yn ddirgelwch.
Goleudy[golygu | golygu cod]
Ceir goleudy enwog, Goleudy Ynys Lawd, ar yr ynys sydd bellach yn atyniad twristaidd. Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn 1809.[2] Dyluniwyd y goleudy 91 troedfedd (28 m) o daldra ar Ynys Lawd gan ddyn o'r enw Daniel Alexander ac mae'r prif golau i'w weld gan longau sy'n pasio ac fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i longau deithio'n ddiogel ar y llwybr môr peryglus rhwng Dulyn, Caergybi a Lerpwl.
Gwarchodfa Natur Ynys Lawd[golygu | golygu cod]
Mae Gwarchodfa Natur Ynys Lawd, un o warchodfeydd yr Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar yr ynys a'r clogwyni gerllaw.