Goleudy Ynys Lawd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
YnysLawd01LB.jpg
YnysLawd02LB.jpg

Mae Goleudy Ynys Lawd yn sefyll ar gopa Ynys Lawd, ynys bach yn ymyl Ynys Gybi.

Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn 1809. Cynlluniwyd y goleudy presennol gan y pensaer Joseph Nelson a chafodd ei godi gan y peirianydd sifil Daniel Alexander. Costiodd £11,828 i adeiladu[1]. Erbyn hyn mae'r goleudy yn cynnwys canolfan ymwelwyr. Gall ymwelwyr gweld hen ystafell beiriant y goleudy ac hefyd dringo’r grisiau at y golau ei hyn.[2]

Defnyddiwyd golau olew yn wreiddiol. Tua 1840, adeiladwyd rheilffordd i ostwng golau llai i lawr y clogwyni os cuddiwyd y brif olau gan niwl. Disoldliwyd y brif lusern gan un newydd yn yr 1870au, eto ym 1909 ac eto ym 1927. Trydanwyd y golau ym 1938.

Daeth y goleudy’n awtomatig ar 12 Medi 1984, a rheolir y goleudy gan ganolfan Tŷ Trinity yn Harwich.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Tony Denton, Nicholas Leach (2011). Lighthouses of Wales. Foxglove Publishing.
  2. Gwefan Trinity House
  3. Tudalen y goleudy ar wefan Trinity House