Klaipėda

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Memel)
Jump to navigation Jump to search
Klaipėda
Quite summer evening in the port city Klaipeda.jpg
Klaipeda city in Lithuania.svg
Lleoliad yn Lithwania
Gwlad Lithwania
Llywodraeth
Daearyddiaeth
Demograffeg
Poblogaeth Cyfrifiad 157350 (Cyfrifiad 2014)
Gwybodaeth Bellach
Cylchfa Amser EET (UTC+2),

Haf: EEST (UTC+3)

Gwefan http://www.klaipeda.lt

Dinas trydydd-fwyaf Lithwania yw Klaipėda (Lithwaneg: amlwg  [ˈkɫɐɪˑpʲeːd̪ɐ] (Ynghylch y sain hon gwrando)) neu Memel[1]. Dyma lle mae Afon Nemunas yn llifo i mewn i'r Môr Baltig. Klaipėda yw phrifddinas Apskritis Klaipėda.

Arfbais Memel
Map o Memel

Mae defnydd o'r enw "Memel", sydd o darddiad Lladin trwy Almaeneg (yn deillio o'r ymadrodd "Castrum Memele", a ddefnyddiwyd gyntaf tua 1250) mewn testunau Cymraeg i gyfeirio at y ddinas hon wedi cael ei defnyddio mor bell yn ôl â'r 16g. "Memel" hefyd yw'r enw Almaeneg a'r enw Saesneg hanesyddol am y ddinas.

Mae Porthladd Klaipėda yn bwysig yn yr ardal. Mae'r porthladd fel arfer yn rhydd o iâ'r Môr Baltig. Bu dan reolaeth y Marchogion Tiwtonaidd, Prwsia, yr Ymerodraeth Almaenig, yr Entente, Lithwania, a'r Trydydd Reich. Daeth y ddinas yn rhan o Lithwania tra roedd yn Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd.

Parhaodd Klaipėda yn rhan o Lithwania yn dilyn annibynniaeth y wlad. Gostyngodd y boblogaeth o 207,100 yn 1992 i 177,823 yn 2011. Mae cyrchfannau glan môr poblogaidd yn agos at Klaipėda yn Nida i'r de ar y Dafod Curoniaidd, a Palanga i'r gogledd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag of Lithuania.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lithwania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.