Klaipėda
Klaipėda | |
---|---|
Lleoliad yn Lithwania | |
Gwlad | Lithwania |
Llywodraeth | |
Daearyddiaeth | |
Demograffeg | |
Poblogaeth Cyfrifiad | 157350 (Cyfrifiad 2014) |
Gwybodaeth Bellach | |
Cylchfa Amser | EET (UTC+2),
Haf: EEST (UTC+3) |
Gwefan | http://www.klaipeda.lt |
Dinas trydydd-fwyaf Lithwania yw Klaipėda (Lithwaneg: amlwg
[ˈkɫɐɪˑpʲeːd̪ɐ] ( gwrando)) neu Memel[1]. Dyma lle mae Afon Nemunas yn llifo i mewn i'r Môr Baltig. Klaipėda yw phrifddinas Apskritis Klaipėda.
Mae defnydd o'r enw "Memel", sydd o darddiad Lladin trwy Almaeneg (yn deillio o'r ymadrodd "Castrum Memele", a ddefnyddiwyd gyntaf tua 1250) mewn testunau Cymraeg i gyfeirio at y ddinas hon wedi cael ei defnyddio mor bell yn ôl â'r 16g. "Memel" hefyd yw'r enw Almaeneg a'r enw Saesneg hanesyddol am y ddinas.
Mae Porthladd Klaipėda yn bwysig yn yr ardal. Mae'r porthladd fel arfer yn rhydd o iâ'r Môr Baltig. Bu dan reolaeth y Marchogion Tiwtonaidd, Prwsia, yr Ymerodraeth Almaenig, yr Entente, Lithwania, a'r Trydydd Reich. Daeth y ddinas yn rhan o Lithwania tra roedd yn Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd.
Parhaodd Klaipėda yn rhan o Lithwania yn dilyn annibyniaeth y wlad. Gostyngodd y boblogaeth o 207,100 yn 1992 i 177,823 yn 2011. Mae cyrchfannau glan môr poblogaidd yn agos at Klaipėda yn Nida i'r de ar y Dafod Curoniaidd, a Palanga i'r gogledd.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Amgueddfa Fort Wilhelm
- Arena Švyturys
- Castell Klaipėda
- Cofadeilad Arka
- Goleudy Klaipėda
- Llyfrgell Ieva Simonaitytė
- Prifysgol Klaipėda
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback.