Thomas Young

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Young
Thomas Young (scientist).jpg
Ganwyd 13 Mehefin 1773 Edit this on Wikidata
Milverton, Somerset Edit this on Wikidata
Bu farw 10 Mai 1829, 10 Mai 1820 Edit this on Wikidata (55 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Addysg Doethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth seryddwr, ffisegydd, anthropolegydd, meddyg, archeolegydd, academydd, ffisiolegydd, pryfetegwr Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Croonian Lecture, Bakerian Lecture Edit this on Wikidata
Llofnod
Young Thomas signature.jpg

Meddyg, anthropolegydd, ffisiolegydd, archeolegydd, ffisegydd a gwyddonydd nodedig o Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon oedd Thomas Young (13 Mehefin 1773 - 10 Mai 1829). Meddyg a polymath Saesnig ydoedd. Gwnaeth gyfraniadau gwyddonol nodedig ym meysydd megis golwg, golau, mecaneg solet, ynni, ffisioleg, iaith, harmoni cerddorol ac Eifftoleg. Cafodd ei eni yn Milverton, Gwlad yr Haf, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Emmanuel, Prifysgol Caeredin a Phrifysgol Göttingen. Bu farw yn Llundain[1].

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Young yn Milverton, Gwlad yr Haf yn fab i Thomas Young, masnachwr lliain a bancwr, a Hannah (née Brocklesby) ei wraig. Roedd y teulu yn perthyn i enwad y Crynwyr[2].

Priododd Eliza (1785-1859), ail ferch James Primrose Maxwell ym 1804. Ni fu iddynt blant.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Treuliodd Young ei flynyddoedd cynnar yng nghartref ei daid mamol. Anogodd ei daid cariad at ddysg yn y llanc ifanc a chyflwynodd o i lenyddiaeth glasurol. Mynychodd ysgol y Crynwyr yn Compton Abbas, Swydd Dorset o 1782 i 1787 lle fu'n dysgu Lladin, Groeg, mathemateg, athroniaeth naturiol a sgiliau mecanyddol.

Wedi ymadael a'r ysgol aeth i gartref y bancwr a'r Crynwr blaenllaw David Barclay yn Youngsbury, Swydd Heartford, i fod yn diwtor a chydymaith i ŵyr Barclay, Hudson Gurney, a oedd ond dwy flynedd yn iau na fo. Ymunwyd â hwy wedyn gan John Hodgkin, tiwtor o Grynwyr a oedd hefyd yn ysgolhaig clasurol profiadol.

Yn dioddef o bwl o afiechyd, cafodd ei drin gan ewyrth ei fam, Dr Richard Brocklesby. Wedi ei ysbrydoli gan ei hen ewyrth rhoddodd Young ei fryd ar ddyfod yn feddyg hefyd. Mynychodd ysgol feddygol William Hunter yn Llundain cyn cofrestru yn Ysbyty St Bartholemew ym 1793.

Mynychodd ysgol Feddygol Caeredin rhwng 1794 a 1795. Ym 1795 aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Göttingen gan raddio'n feddyg ym 1796.[3]. Rhwng 1797 a 1799 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Emanuel, Caergrawnt[4]. Derbyniodd radd MB o Brifysgol Caergrawnt ym 1803 a MD ym 1808.

Yn ogystal â dysgu i fod yn feddyg bu Young hefyd yn derbyn gwersi arlunio, marchogaeth, dawnsio, a chanu offerynnau cerddorol. Roedd y fath adloniannau yn cael eu hystyried yn anghydnaws a bod yn Grynwr, gan hynny fe'i diarddelwyd o'i enwad ym 1798.

Gyrfa feddygol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1798, etifeddodd Young ystâd ei ewythr, Richard Brocklesby, trwy hyn daeth yn ariannol annibynnol. Ym 1799 sefydlodd ei hun fel meddyg yn 48 Welbeck Street, Llundain.

Ym 1801, penodwyd ef yn athro athroniaeth naturiol yn y Sefydliad Brenhinol[5]. Dros gyfnod o ddwy flynedd cyflwynodd 91 o ddarlithoedd. Ym 1802, penodwyd ef yn ysgrifennydd tramor y Gymdeithas Frenhinol. Ymddiswyddodd o fod yn athro ym 1803, gan ofni y byddai ei ddyletswyddau yn ymyrryd â'i feddygfa. Cyhoeddwyd ei ddarlithoedd ym 1807 yn Course of Lectures on Natural Philosophy sydd yn cynnwys rhagolwg o nifer o'i ddamcaniaethau diweddarach.

Ym 1811, daeth Young yn feddyg yn Ysbyty San Siôr, Llundain ac ym 1814 fe wasanaethodd ar bwyllgor a benodwyd i ystyried y peryglon cysylltiedig â chyflwyno nwy ar gyfer system goleuo cyffredinol yn Llundain. Ym 1816 bu'n ysgrifennydd comisiwn a benodwyd i ganfod union hyd eiliad a pha mor hir byddid pendil a'i chyfnod yn union 2 eiliad. Ym 1818 daeth yn ysgrifennydd y Bwrdd Hydred ac yn uwch-arolygydd Swyddfa Almanac Morwrol ei Mawrhydi. Rhwng 1824 a 1829 bu'n gweithio i Gwmni Yswiriant Palladian fel meddyg ac arolygydd cyfrifiadau.

Ymchwil[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Young yn polymath a gyfrannodd ymchwil i sawl maes. Ymysg ei gyfraniadau bu ymchwil i: [6]

  • y damcaniaeth bod golau yn dôn yn hytrach na gronyn
  • mesur o anhyblygedd deunydd solet sy'n cael ei alw'n Young's modulus
  • sut mae'r llygaid yn gweld a dehongli lliw
  • Mae tri hafaliad sy'n ymwneud a thyndra arwyneb wedi eu henwi ar ei ôl, Hafaliad Young, Hafaliad Young-Laplace a Hafaliad Young–Dupré
  • Young oedd y cyntaf i ddiffinio'r term "egni" yn ei hystyr cyfoes
  • Meddygaeth
  • Gwnaeth Young gyfraniad pwysig i ddeall swyddogaethau'r galon a'r rhydwelïau o'r hyn deilliodd fformiwla ar gyfer cyflymder tonnau'r pwls
  • Roedd ei ysgrifau meddygaeth yn cynnwys cyflwyniad i lenyddiaeth feddygol, system ymarferol ar ddosbarthu afiechydon ac ymchwiliad i'r diciâu
  • Dyfeisiodd Young rheol bawd ar gyfer pennu dos cyffur ar gyfer plentyn. Mae Rheol yn awgrymu rhoi i blentyn dos oedolion wedi cael ei luosi gan oedran y plentyn mewn blynyddoedd, wedi'i rannu ag oedran y plentyn + 12.
  • Ieithoedd
  • Awgrymodd Young y dylid creu gwyddor ffonetig ryngwladol y gellir ei ddefnyddio i ddisgrifio holl synau ieithoedd gwahanol y byd
  • Young oedd y cyntaf i ddefnyddio'r term Ieithoedd Indo-Ewropeaidd
  • Gwnaeth astudiaeth o hieroglyffau'r hen Aifft a fu'n cynorthwyo yn y gwaith o ddehongli Maen Rosetta
  • Cerddoriaeth. Datblygodd Ardymer Young, modd o diwnio offerynnau cerddorol

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw Thomas Young yn Llundain yn 55 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent eglwys St Giles, Farnborough, Swydd Gaint. Mae yna blac er cof amdano yn Abaty Westminster a phlac glas ar safle ei feddygfa yn Welbeck Street, Llundain.

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd Thomas Young y gwobrau canlynol o ganlyniad i'w waith:

  • Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol
  • Aelod Anrhydeddus Dramor o Academi Celfyddydau a Gwyddorau America.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cantor, G. (2004-09-23). Young, Thomas (1773–1829), physician and natural philosopher, Oxford Dictionary of National Biography adalwyd 21 Chwefror 2018
  2. "Thomas Young". School of Mathematics and Statistics University of St Andrews, Scotland. http://www-history.mcs.st-andrews.ac.uk/Biographies/Young_Thomas.html. Adalwyd 21 Chwefror 2018.
  3. "Thomas Young (1773-1829)". Andrew Gasson. https://www.andrewgasson.co.uk/thomas-young-1773-1829/. Adalwyd 21 Chwefror 2018.
  4. "THOMAS YOUNG (1773 - 1829)". Emmanuel College. https://www.emma.cam.ac.uk/about/history/famous//index.cfm?id=9. Adalwyd 21 Chwefror 2018.
  5. "Ri Professors". Royal Institution. http://www.rigb.org/our-history/people/ri-professors. Adalwyd 21 Chwefror 2018.
  6. Robinson,Andrew The Last Man Who Knew Everything: Thomas Young, the Anonymous Polymath Who Proved Newton Wrong, Explained How We See, Cured the Sick and Deciphered the Rosetta Stone 2006, Oneworld Publications isbn 978-1851684946
  7. "Book of Members, 1780–2010: Chapter Y". American Academy of Arts and Sciences. http://www.amacad.org/publications/BookofMembers/ChapterY.pdf. Adalwyd 21 Chwefror 2017.