Carreg Rosetta
| Enghraifft o: | Überrest, ysgrifen ddwyieithog, coflech, Epigraphic monument |
|---|---|
| Deunydd | granodiorite |
| Dyddiad darganfod | 15 Gorffennaf 1799 |
| Iaith | Hen Roeg, Eiffteg |
| Dechrau/Sefydlu | 196 CC |
| Lleoliad | yr Amgueddfa Brydeinig |
| Perchennog | yr Amgueddfa Brydeinig |
| Prif bwnc | Rosetta Stone decree |
| Enw brodorol | Rosetta stone |
| System ysgrifennu | hieroglyffau'r Aifft, demotig yr Aifft, Yr wyddor Roeg |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/06l5c |
| Quora | Rosetta-stone-2 |

Slab o garreg arysgrifiedig a ddarganfuwyd ar 15 Gorffennaf 1799 yn Rosetta (Arabeg: Rashid), ger Alecsandria yng ngogledd Yr Aifft yw Carreg Rosetta.[1] Mae'n ddryll anghyflawn o dalp o garreg fasalt ddu sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain. Darganfuwyd y garreg ym mhorthladd Rossetta, yr Aifft gan Pierre-François Bouchard. Yr enw modern ar y porthladd yw 'Rashid'.
Ceir arni ddatganiad a wnaed gan y brenin Ptolemi V Epiphanes (teyrnasodd 205 CC-180 CC) yn 196 CC, a gofnodir mewn dwy iaith a thair sgript, sef hieroglyphiaid Eifftaidd, demotig a Groeg. Ceir 14 llinell o heieroglyphiaid, 32 llinell o ddemotig (sgript ddiweddarach ar gyfer ysgrifennu Hen Eiffteg) a 54 llinell o Roeg. Datganiad ynglŷn ag offeiriadaeth teml Memphis a geir arni.
Sylwodd yr ieithydd Thomas Young ar y ffaith fod un enw, sef enw'r brenin, yn dangos yn y tair sgript, ac aeth ati i ddechrau dehongli'r arysgrifiadau. Llwyddodd ieithydd arall, y Ffrancwr Jean-Francois Champollion, i gwblhau'r cyfieithu. Cyhoeddodd Champollion ei ddarganfyddiad yn y gyfrol Lettre à M. Dacier relative à l'aplphabet des Hiéroglyphes Phonétiques (1822). Fel hyn y cafwyd yr agoriad i fynd ati a darllen a dehongli holl arysgrifau Hen Eiffteg yr Aifft.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Yr Amgueddfa Brydeinig; adalwyd 15 Gorffennaf 2015
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- E. A. Wallis Budge, The Mummy (argraffiad newydd, 1989). Llyfr ar ddiwylliant yr Hen Aifft gan yr Eifftolegydd enwog sy'n cynnwys pennod diddorol ar hanes Carreg Rosetta.