Memphis (Yr Aifft)
| Math | dinas hynafol, Ancient Egyptian archaeological site |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Memphis and its Necropolis – the Pyramid Fields from Giza to Dahshur |
| Sir | Giza Governorate |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 155.16 ha |
| Uwch y môr | 20 metr |
| Cyfesurynnau | 29.8494°N 31.255°E, 29.844667°N 31.250917°E |
![]() | |
| Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |

Dinas Memphis (Μέμφις) oedd prifddinas yr Hen Aifft yng ngyfnod yr Hen Deyrnas, o gyfnod ei sefydlu hyd tua 2200 CC, ac am gyfnodau byr yn ddiweddarach. Saif 20 km i'r de o Cairo, ar lan orllewinol Afon Nîl,
Groeg yw'r enw "Memphis"; yr enw Eiffteg oedd Ineb Hedj ("Y Muriau Gwynion"). Saif dinasoedd a threfi modern Mit Rahina, Dahshur, Saqqara, Abusir, Abu Gorab a Zawyet el'Aryan, i'r de o ddinas Cairo, o fewn ffiniau gweinyddol hen ddinas Memphis. Yn ôl Herodotus, sefydlwyd y ddinas tua 3100 CC gan y brenin Menes, a unodd ddwy deyrnas yr Aifft.
Cyrhaeddodd Memphis uchelbwynt yng nghyfnod y 6ed Brenhinllin, fel canolfan i gwlt y duw Ptah. Hyd yn oed wedi sefydlu Alexandria, parhaodd yn ail ddinas yr Aifft hyd nes i Fustat gael ei sefydlu yn 641. Gadawyd y ddinas i adfeilio yn fuan wedyn.
Enwyd nifer o ddinasoedd a threfi mewn gwahanol wledydd ar ôl y Memphis wreiddiol; y fwyaf adnabyddus yw Memphis, Tennessee.
