Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd18 Gorffennaf 1552 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ionawr 1612 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcasglwr celf Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, brenin Hwngari Edit this on Wikidata
TadMaximilian II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig Edit this on Wikidata
MamMaria o Awstria, Ymerodres Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
PlantJulius d’Austria Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Urdd y Gardas Edit this on Wikidata

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Rudolf II (18 Gorffennaf 155220 Ionawr 1612) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1576 i 1612.

Ganed ef yn Fienna yn fab i Maximilian, fab Ferdinand, Brenin Hwngari, Croatia a Bohemia, a Maria, ferch Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig—brodyr oedd Ferdinand a Siarl, ac felly cefnder a chyfnither gyfan oedd rhieni Rudolf. Olynwyd Siarl V yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan ei frawd Ferdinand I ym 1556, a dilynwyd yr hwnnw gan ei fab Maximilian II 1564. Derbyniodd Rudolf ei addysg yn llys ei ewythr, Felipe II, Brenin Sbaen.[1] Coronwyd yn Rudolf, Brenin Hwngari a Chroatia ym 1572 ac yn Rudolf II, Brenin Bohemia ym 1575. Yn sgil marwolaeth Maximilian ar 12 Hydref 1576, fe'i dyrchafwyd yn Rudolf II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig a Rudolf V, Archddug Awstria yn 24 oed.[2]

Deallusyn, amlieithydd, a chasglwr oedd Rudolf, a dywed iddo fedru Almaeneg, Lladin, Sbaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, a rhywfaint o Tsieceg.[1] Dioddefai o byliau o iselder ysbryd, ac ym 1583 aeth o'r neilltu i Brag, Bohemia, i ymddiddori yn y celfyddydau a'r gwyddorau. Dan ei nawdd, daeth Prag yn ganolfan i ysgolheigion, arlunwyr, penseiri, crefftwyr, ac esoteryddion o bedwar ban Ewrop, yn eu plith Tycho Brahe, Johannes Kepler, Bartholomaeus Spranger, Giuseppe Arcimboldo, Giambattista Della Porta, a John Dee. Comisiynodd Rudolf nifer o gelfyddydweithiau, a chasglodd baentiadau, cerfluniau, tapestrïau, ac engrafiadau ar gyfer ei oriel, llyfrau a llawysgrifau ar gyfer ei lyfrgell, a thlysau, ffosiliau, cregyn, esgyrn, ac offer gwyddonol ar gyfer ei Kunstkammer (arddangosfa hynodion).[1] Ymddiddorai hefyd yn yr ocwlt, alcemeg, a dewiniaeth.

Gwaethygodd ei afiechyd meddwl ar ôl 1598, ac yn ystod ei flynyddoedd olaf pwysodd yr Hapsbwrgiaid eraill ar Rudolf i drosglwyddo'i rym yn raddol i'w frawd iau, Matthias. Ildiodd felly goron Hwngari iddo ym 1608 a choron Bohemia ym 1611. Bu farw Rudolf II ym Mhrag yn 59 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan Matthias.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Stephanie Witham, "Rudolf II of Habsburg, Holy Roman Emperor" yn Renaissance and Reformation, 1500–1620: A Biographical Dictionary, golygwyd gan Jo Eldridge Carney (Westport, Connecticut: Greenwood Press, 2001), tt. 305–06.
  2. (Saesneg) Rudolf II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2023.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • R. J. W. Evans, Rudolf II and His World (1973).
  • E. Fucikova (gol.), Rudolf II and Prague: The Court and the City (1997).
Rhagflaenydd:
Maximilian II
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
15761612
Olynydd:
Matthias