Ffredrig III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Ffredrig III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Portread o Ffredrig III (tua 1500) gan Hans Burgkmair.
Ganwyd21 Medi 1415 Edit this on Wikidata
Innsbruck Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 1493, 18 Awst 1493 Edit this on Wikidata
Linz Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethllywodraethwr Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, Brenin y Rhufeiniaid, Brenhinoedd yr Eidal, Duke of Carinthia, Archddug, Rulers of Styria Edit this on Wikidata
TadErnest Edit this on Wikidata
MamCymburgis of Masovia Edit this on Wikidata
PriodEleanor o Bortiwgal Edit this on Wikidata
PlantMaximilian I, Kunigunde of Austria, Christof von Habsburg, Helene von Habsburg, Johann von Habsburg Edit this on Wikidata
PerthnasauCasimir, Margrave of Brandenburg-Bayreuth, Otto Henry Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Urdd y Cnu Aur, Rhosyn Aur, Marchog Urdd y Beddrod Sanctaidd, Urdd y Gardas Edit this on Wikidata

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Ffredrig III (21 Medi 141519 Awst 1493) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1452 i 1493, yn Frenin y Rhufeiniaid o 1440 i 1493, yn Archddug Awstria o 1457 i 1493, ac yn Ddug Styria, Carinthia, a Carniola o 1424 i 1493.

Ganed yn Innsbruck, Iarllaeth Tyrol, yn fab i Ernst, Dug Awstria. Etifeddodd diriogaethau Awstria Fewnol – Styria, Carinthia, Carniola, a Gorizia – wedi i Ernest farw yn 1424. Erbyn 1439, Ffredrig oedd prif aelod y Hapsbwrgiaid.

Yn sgil marwolaeth ei gefnder Albrecht Fawrfrydig, etholwyd Ffredrig yn Frenin y Rhufeiniaid (neu Frenin yr Almaen) yn 1440 a fe'i coronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1452. Bu mab Albrecht, Ladislaus yr Ôl-anedig, dan warchodaeth Ffredrig am gyfnod.

Yn 1486, etholwyd ei fab Maximilian yn Frenin y Rhufeiniaid ar y cyd â Ffredrig.[1] Bu farw yn Linz, Archddugiaeth Awstria, yn 77 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan Maximilian.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Robert William Seton-Watson (1902). Maximilian I, Holy Roman Emperor: (Stanhope Historical Essay 1901) With Numerous Illustrations (yn Saesneg). A. Constable & Company, Limited. t. 33.
  2. (Saesneg) Frederick III (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd:
Sigismund
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
14521493
Olynydd:
Maximilian I