Louis Dduwiol
| Louis Dduwiol | |
|---|---|
| Ganwyd | 16 Ebrill 778, 20 Ebrill 778, Medi 778 Chasseneuil-du-Poitou |
| Bu farw | 20 Mehefin 840, 24 Mehefin 840 Ingelheim am Rhein |
| Dinasyddiaeth | Ymerodraeth y Carolingiaid |
| Galwedigaeth | teyrn, brenin neu frenhines |
| Swydd | dug Bafaria, brenin y Ffranciaid, Carolingian Roman emperor |
| Tad | Siarlymaen |
| Mam | Hildegard |
| Priod | Ermengarde of Hesbaye, Judith of Bavaria |
| Partner | Theudelinde de Sens |
| Plant | Lothair I, Louis yr Almaenwr, Gisela, Siarl Foel, Arnulf of Sens, Rotrude, Bertha, Hildegard, princess of Francia, Pepin I of Aquitaine, Alpais, Adelaide d'Aquitaine |
| Llinach | Y Carolingiaid |
Roedd Louis Dduwiol (Mehefin/Awst 778 - 23 Mehefin 840) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a brenin Aquitania.
Louis oedd trydydd mab Siarlymaen, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Bu ganddo bedwar mab a nifer o ferched. O'i wraig gyntaf, Ermenganda de Hesbay, cafodd dri mab, Lothair I a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Louis yr Almaenwr a Pipin o Aquitania. O'i ail wraig, Judith, merch Welf, cafodd fab arall, Siarl Foel.
Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn 838, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan Gytundeb Verdun.
| Rhagflaenydd: Siarl I (Siarlymaen) |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 814 – 840 |
Olynydd: Lothair I |