Cytundeb Verdun

Oddi ar Wicipedia
Cytundeb Verdun
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiAwst 843 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganTreaty of Prüm Edit this on Wikidata
LleoliadVerdun Edit this on Wikidata
Prif bwncMiddle Francia, West Francia, East Francia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhaniad yr ymerodraeth rhwng tri mab Louis Dduwiol

Roedd Cytundeb Verdun, a gytunwyd ar 8 Awst neu 11 Awst 843, yn gytundeb rhwng tri mab Louis Dduwiol, wyrion Siarlymaen, i rannu'r Ymerodraeth Garolingaidd rhyngddynt.

Bu farw Louis Dduwiol yn 840 a cheisiodd ei fab hynaf Lothair ddod yn ymeradwr dros deyrnas ei dad. Roedd dau arall o feibion Louis yn fyw, Louis yr Almaenwr a Siarl Foel, a gwnaethant gynghrair i wrthwynebu Lothair (gweler Llwon Strasbwrg), gan ei orchfygu ym mrwydr Fontenoy-en-Puisaye yn 841.

Yn 843, cytunodd y tri brawd i rannu'r ymerodraeth:

  • Siarl Foel yn derbyn Ffrancia Orllewinol (a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach).
  • Lothair I, oedd yn cael y teitl o ymerawdwr, yn derbyn Ffrancia Ganol (a enwyd yn Lotharingia).
  • Louis yr Almaenwr yn derbyn Ffrancia Ddwyreiniol, a elwid Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig yn ddiweddarach.