Llwon Strasbwrg

Oddi ar Wicipedia
Llwon Strasbwrg
Enghraifft o'r canlynolcynghrair, gwaith ysgrifenedig, digwyddiad hanesyddol Edit this on Wikidata
AwdurNithard Edit this on Wikidata
IaithRhine Franconian, Gallo-Romance Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Chwefror 842 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cytundeb milwrol a wnaed ar 14 Chwefror 842 oedd Llwon Strasbwrg (Lladin: Sacramenta Argentariae). Tyngodd Siarl Foel a Louis yr Almaenwr llwon yn erbyn eu brawd hŷn Lothair, etifedd dynodedig Louis Dduwiol, a oedd yn olynydd i Siarlymaen.[1] Flwyddyn yn ddiweddarach byddai Cytundeb Verdun yn cael ei arwyddo gan y tri brawd, gyda'r canlyniad y byddai yr Ymerodraeth Garolingaidd yn cael ei rhannu rhwngddynt.

Tyngodd Louis yr Almaenwr ei lw mewn iaith Romáwns er mwyn i filwyr Siarl Foel ei ddeall. Yn yr un modd, tyngodd Siarl mewn iaith Germaneg er mwyn i filwyr Louis ei ddeall yntau. Mae'r testun Romáwns yn arbennig o bwysig i ieithyddiaeth hanesyddol, gan mai dyma'r ddogfen hynaf sy'n bodoli yn Ffrainc a ysgrifennwyd mewn ffurf gynnar o Ffrengig.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geneviève Bührer-Thierry et Charles Mériaux, La France avant la France, Gallimard, 3 Medi 2019, 770 ISBN 978-2-07-279888-7 (Ffrangeg)
  2. Philippe Walter, Naissances de la littérature française, p. 12, éd. Presses Universitaires du Mirail, 1998. (Ffrangeg)