Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Oddi ar Wicipedia
Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ganwyd12 Chwefror 1768 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mawrth 1835 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Galwedigaethpennaeth y wladwriaeth Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Glân Rhufeinig, Ymerawdwr Awstria Edit this on Wikidata
PriodDuges Elisabeth o Württemberg, Maria Theresa o Napoli a Sisili, Maria Ludovika o Austria-Este, Caroline Augusta o Bafaria Edit this on Wikidata
PlantFerdinand I, Joseph Franz o Awstria, Johann Nepomuk o Awstria, Archdduchol Ludovika Elisabeth o Awstria, Archdduchol Marie Caroline o Awstria, Archdduges Caroline Ludovika o Awstria, Archdduges Amalie Theresa o Awstria, Archdduges Maria Anna o Awstria Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Hapsbwrg-Lorraine Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Uwch Groes y Lleng Anrhydedd, Urdd y Gardas, Urdd yr Eliffant, Order of Saint Januarius, Urdd y Cnu Aur, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Order of Leopold, Order of the Iron Crown, Order of Saint Ferdinand and of Merit, Uwch Groes Sash y Tair Urdd Edit this on Wikidata
llofnod

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Ffransis (12 Chwefror 17682 Mawrth 1835) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig olaf (Ffransis II; 1792–1806), Ymerawdwr cyntaf Awstria (Ffransis I; 1804–35), Brenin Hwngari (1792–1830), Brenin Bohemia (1792–1835), ac Archddug Awstria (1792–1835).

Ganed yn Fflorens yn fab i Leopold, Uchel Ddug Tysgani, a fu ddiweddarach yn Leopold II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, a'i wraig Maria Luisa. Cafodd ei addysg wleidyddol oddi wrth ei ewythr, Joseff II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig.[1]

Ym 1804, pan oedd Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc ar fin diddymu'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, unwyd y Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd ar ffurf Ymerodraeth Awstria gan Ffransis, a ddatganodd ei hun yn Ffransis I, Ymerawdwr Awstria. Am ddwy flynedd, cyn diwedd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1806, roedd Ffransis yn Doppelkaiser ("ymerawdwr dwbl").

Bu farw Ffransis yn Fienna yn 67 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Francis II (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd:
Leopold II
Ymerawdwr Glân Rhufeinig
17921806
Olynydd: