Ferdinand I, Ymerawdwr Awstria

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ferdinand I, Ymerawdwr Awstria
Ferdinand I; Keizer van Oostenrijk.jpg
Ganwyd 19 Ebrill 1793 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Mehefin 1875 Edit this on Wikidata (82 oed)
Prag Edit this on Wikidata
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Emperor of Austria, king of Hungary Edit this on Wikidata
Priod Maria Anna of Savoy Edit this on Wikidata
Llinach Habsburg-Lorraine Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Knight Grand Cross of the Order of Saint Ferdinand and of Merit, Uwch Croes Urdd Siarl III Edit this on Wikidata

Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg-Lorraine oedd Ferdinand (19 Ebrill 179329 Mehefin 1875) a fu'n Ymerawdwr Awstria (1835–48), yn Frenin Hwngari (1830–48), yn Frenin Bohemia (1835–48), ac yn Archddug Awstria (1835–48).

Ganed yn Fienna yn fab hynaf i Ffransis II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig (ac yn ddiweddarach Ffransis I, Ymerawdwr Awstria) a Maria Theresa, Tywysoges Napoli a Sisili. Er iddo ddioddef epilepsi a gwendid meddwl, mynnodd Ffransis wneud Ferdinand yn etifedd y goron.[1]

Coronwyd Ferdinand yn Frenin Hwngari ym 1830. Yn sgil marwolaeth yr Ymerawdwr Ffransis ar 2 Mawrth 1835, esgynnodd Ferdinand i orseddau Ymerodraeth Awstria a Theyrnas Bohemia. Oherwydd ei afiechydon, cafodd yr ymerodraeth ei llywodraethu gan gynhadledd wladwriaethol dan arweiniad Klemens Wenzel von Metternich. Yn sgil chwyldroadau 1848, ildiodd Ferdinand yr orsedd i'w nai Franz Joseph ar 2 Rhagfyr 1848.

Bu farw Ferdinand ym Mhrag yn 82 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Ferdinand (I), emperor of Austria. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Awst 2020.