Yr Ymerodres Matilda

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd Matilda (gwahaniaethu).
Yr Ymerodres Matilda
Ganwydc. 7 Chwefror 1102 Edit this on Wikidata
Sutton Courtenay Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 1167 Edit this on Wikidata
Rouen Edit this on Wikidata
Swyddbrenhines gydweddog, teyrn Edit this on Wikidata
TadHarri I, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
MamMatilda o'r Alban Edit this on Wikidata
PriodHenry V, Geoffrey Plantagenet Edit this on Wikidata
PlantHarri II, brenin Lloegr, Geoffrey, iarll Nantes, William Fitzempress, Emme o Anjou Edit this on Wikidata
LlinachLlinach y Plantagenet Edit this on Wikidata

Merch ac etifeddes y brenin Harri I o Loegr oedd Yr Ymerodres Matilda (Ffrangeg, Mahaut; Ffrangeg Normanaidd, Maud; weithiau Maude yn Saesneg); yn ddiweddarach yn Ymerodres Lân Rufeinig, Cowntes Anjou, ac Arglwyddes y Saeson; Chwefror 110210 Medi 1167). Roedd hi'n wraig i Harri V, Ymerodr Glân Rhufeinig, ac ar ôl hynny yn briod Sieffre V, Cownt Anjou, trwy'r hwn y daeth yn fam Harri II of Loegr.

Matilda oedd y ferch gyntaf i reoli Teyrnas Lloegr ar ôl ymdrech hir yn erbyn y brenin Steffan o Loegr a'i gefnogwyr. Ond golygodd ei methiant i sicrhau ei theyrnasiad mai byr fu ei rheolaeth ddi-wrthwynebiad, rhwng Mai a Thachwedd 1141; mewn canlyniad tueddir i'w hebgor o restrau o frenhinoedd a breninesau Lloegr. Ni chafodd ei choroni ond mabwysiadodd y teitl 'Arglwyddes y Saeson'.

Ei hanes[golygu | golygu cod]

Ganwyd Matilda yn Chwefror (y 7fed neu'r 11eg efallai) 1102 yn ferch i Harri I, brenin Lloegr a'i wraig Matilda o'r Alban. Ar ochr ei mam roedd hi'n wyres i Malcolm III, brenin yr Alban, a'r Santes Margaret o'r Alban, wyres Edmwnd II, brenin Lloegr. Credir iddi gael ei geni yng Nghaerwynt neu efallai yn Berkshire.

Yn 1114, a hithau'n ferch 12 oed, priododd Harri V (Henri V), Ymerodr Glân Rhufeinig. Pan fu farw Harri V ym 1125, dychwelodd Matilda i Loegr a chafodd ei chydnabod yn etifeddes coron Lloegr. Ym 1128, priododd â Sieffre, Cownt Anjou (Geoffroi neu Geoffrey Plantagenet). Ganwyd mab iddi, Henri, a ddaeth yn ddiweddarach yn Harri II, brenin Lloegr.

Ar farwolaeth Harri I ym 1135, cipiodd ei nai Steffan o Blois (Steffan, brenin Lloegr) y goron. Ym 1139, hwyliodd Matilda i Loegr gyda'i hanner-frawd Robert, Iarll Caerloyw, i oresgyn teyrnas Lloegr. Llwyddasant i orchfygu Steffan a'i ddal am gyfnod byr, ond tyfodd y gefnogaeth i Steffan ymhlith y barwniaid a bu rhaid i Fatilda ildio'r orsedd ym 1148 a ffoi i'w frawd yn Normandi.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Bradbury, J. (1996) Stephen and Matilda: the Civil War of 1139-1153, Sutton Publishing, ISBN 0-7509-0612-X
  • Chibnall,Marjorie (1991) The Empress Matilda: Queen Consort, Queen Mother, and Lady of the English
  • Pain, Nesta (1978) Empress Matilda: Uncrowned Queen of England
  • Parsons, John Carmi 'Medieval Mothering (New Middle Ages)