Sixhills
| Math | pentref, plwyf sifil |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Ardal Gorllewin Lindsey |
| Poblogaeth | 43 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 53.3666°N 0.2416°W |
| Cod SYG | E04006046 |
| Cod OS | TF170869 |
![]() | |
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Sixhills.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Gorllewin Lindsey. Saif i'r de o'r A631, oddeutu 3 milltir (4.8 km) i'r de-ddwyrain o Market Rasen ar y ffordd i Ludford.
Cynlluniawyd yr eglwys leol, sef Eglwys yr Holl Seintiau, gan James Fowler (1869 ac 1875).[2]
Ar un adeg bu yma briordy o Urdd Gilbert, a sefydlwyd yn y 14g: Priordy'r Santes Fair. Mae lleiandy gerllaw'r safle yn dal i sefyll.[3] Ar orchymyn Edward I gyrrwyd Gwladys ferch Dafydd ap Gruffudd yno, lle bu farw yn 1336. Talodd y brenin £20 y flwyddyn am ei chadw.[4][5] yma hefyd y carcharwyd Christina Seton, chwaer Robert I, brenin yr Alban (Robert the Bruce) a gwraig Syr Christopher Seton a ddienyddiwyd hefyd gan Edward I. Bu'n lleian yma rhwng 1306 a 1314.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan UK Towns List Archifwyd 2013-06-25 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 3 Mai 2013
- ↑ "Church of All Saints" Archifwyd 2012-10-18 yn y Peiriant Wayback, National Heritage List for England, English Heritage. Adalwyd 2011.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
- ↑ Princes of Gwynedd Archifwyd 2013-06-13 yn y Peiriant Wayback, princesofgwynedd.com. Adalwyd 2014.
- ↑ british-history.ac.uk; adalwyd Tachwedd 2015
- ↑ www.thelittlehouseiusedtolivein.wordpress.com; adalwyd Tachwedd 2015
