Ardal Gorllewin Lindsey
Gwedd
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Lincoln |
| Prifddinas | Gainsborough |
| Poblogaeth | 94,869 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,155.732 km² |
| Cyfesurynnau | 53.35°N 0.6°W |
| Cod SYG | E07000142 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of West Lindsey District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Ardal Gorllewin Lindsey (Saesneg: West Lindsey District).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,156 km², gyda 95,667 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln i'r gogledd, Bwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln i'r gogledd-ddwyrain, Ardal Dwyrain Lindsey i'r dwyrain, Ardal Gogledd Kesteven a Dinas Lincoln i'r de, yn ogystal â Swydd Nottingham i'r gorllewin.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir yr ardal yn 128 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Gainsborough. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Caistor, a Market Rasen.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 4 Ionawr 2021
