Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln
| Math | ardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref |
|---|---|
| Prifddinas | Scunthorpe |
| Poblogaeth | 172,005 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Swydd Lincoln |
| Sir | Swydd Lincoln (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 846.2966 km² |
| Cyfesurynnau | 53.6°N 0.65°W |
| Cod SYG | E06000013 |
| GB-NLN | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of North Lincolnshire Council |
![]() | |
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Lincoln, Swydd Efrog a Humber, Lloegr, yw Bwrdeistref Gogledd Swydd Lincoln (Saesneg: Borough of North Lincolnshire).
Mae gan yr ardal arwynebedd o 846 km², gyda 172,292 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln a Ardal Gorllewin Lindsey i'r de, yn ogystal â Swydd Nottingham i'r de-orllewin, De Swydd Efrog i'r gorllewin, a Dwyrain Swydd Efrog i'r gogledd.

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 1996, pan ddiddymwyd yr hen sir Humberside. (Cyn creu Humberside ym 1974 roedd yr ardal hon wedi bod yn rhan o Swydd Lincoln.)
Rhennir y fwrdeistref yn 56 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Scunthorpe, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Barton-upon-Humber, Brigg, Broughton, Crowle, Epworth, Kirton in Lindsey, a Winterton
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 6 Ionawr 2021
