Côr Meibion Trelawnyd
Gwedd
Clawr albwm Côr Meibion Trelawnyd o 1968. | |
| Enghraifft o: | côr meibion, côr |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Dynodwyr | |
Côr meibion Cymreig yw Côr Meibion Trelawnyd, a leolir ym mhentref Trelawnyd yn Sir y Fflint, Cymru. Fe'i sefydlwyd ym 1933.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ffurfiwyd Côr Meibion Trelawnyd ym 1933, er mwyn cystadlu yn Eisteddfod y pentref. Tyfodd aelodaeth y côr a daeth William Humphreys, tad y llenor lleol Emyr Humphreys yn gôr-feistr. Dros y blynyddoedd bu'n canu llai a llai, ond yn 1946 ailsefydlwyd y côr gan fynd o nerth i nerth. Enillodd y côr gystadleuaethau yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Y Bala 1967 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhuthun 1973. Mae'r côr yn dal i fynd hyd heddiw.[1]
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]| Teitl y gân | Clip sain | Blwyddyn cyhoeddi | Rhif Catalog |
|---|---|---|---|
| Amen | 2006 | SAIN SCD 2532 | |
| Ar Hyd y Nos | 2006 | SAIN SCD 2532 |