Emyr Humphreys
Emyr Humphreys | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1919 Trelawnyd |
Bu farw | 30 Medi 2020 Llanfair Pwllgwyngyll |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, nofelydd, darlithydd, cynhyrchydd teledu |
Cyflogwr | |
Plant | Dewi Humphreys, Siôn Humphreys |
Gwobr/au | Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Somerset Maugham, Gwobr Hawthornden, Llyfr y Flwyddyn, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Llenor, bardd a nofelydd o Gymru oedd Emyr Owen Humphreys (15 Ebrill 1919 – 30 Medi 2020)[1], ac un o nofelwyr mwyaf blaengar Cymru.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Bywyd cynnar a theulu
[golygu | golygu cod]Ganwyd Humphreys yn Nhrelawnyd[3] ger Prestatyn, Sir y Fflint, yn fab i William Humphreys, ysgolfeistr y pentref a sylfaenydd ac arweinydd Côr Meibion Trelawnyd[4] a Sarah Rosina (née Owen), ei wraig. Cefnder trwy waed a brawd iddo trwy fabwysiad oedd yr awdur Y Parchedig Ganon John Elwyn Humphreys OBE, Lisbon[5]; Roedd tad Emyr yn gyfyrder i'r Prifardd Hedd Wyn. Mynychodd Ysgol Uwchradd y Rhyl. Siaradwr Saesneg yn unig oedd Humphreys ond dechreuodd ddysgu'r Gymraeg wedi i ysgol fomio Penyberth yn Llŷn gael ei llosgi ym 1936 ac ysgogwyd ei ddiddordeb yn yr iaith.[6][7][8]
Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, lle bu'n cyd-letya gyda'r cyfreithiwr a'r awdur, Emyr Currie-Jones.
Ym 1946 priododd Elinor Myfanwy Jones yng Nghaernarfon a bu iddynt tri mab ac un ferch - Sion, Mair, Robin a Dewi. Mae Dewi, ei fab hynaf, yn gyfarwyddwr teledu a fu'n gyfrifol am raglenni megis The Vicar of Dibley ac Absolutely Fabulous[9]. Mae ei ail fab Siôn yn gyfarwyddwr ffilm a theledu a fu'n gyfrifol am raglenni megis Pengelli a Teulu yn ogystal â sawl ffilm Gymraeg nodedig. Bu ei wyr Eitan ap Dewi yn chwaraewr rygbi rhyngwladol yn chware yn safle’r mewnwr i dîm Israel[10] .
Gyrfa broffesiynol
[golygu | golygu cod]Aeth ymlaen i astudio hanes ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[6] Cofrestrodd fel gwrthwynebwr cydwybodol pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939.[11] Wedi'r rhyfel bu'n gweithio fel athro, cynhyrchydd radio gyda'r BBC ac yn ddiweddarach daeth yn ddarlithydd drama ym Mhrifysgol Bangor.[12] Carcharwyd Humphreys am wrthod prynu trwydded deledu yn ystod y 1970au mewn protest yn erbyn diffyg lle a statws i'r Gymraeg ar y teledu yng Nghymru.[7][8]
Gyrfa lenyddol
[golygu | golygu cod]Daeth yn llenor llawn amser ym 1972.[8] Yn ystod ei yrfa lenyddol, cyhoeddodd dros ugain o nofelau, gan gynnwys clasuron megis A Toy Epic (1958), Outside the House of Baal (1965), a The Land of the Living, a chyfres epic o saith nofel yn adrodd hanes gwleidydol a diwylliannol Cymru yn yr 20fed ganrif: Flesh and Blood, The Best of Friends, Salt of the Earth, An Absolute Hero, Open Secrets, National Winner a Bonds of Attachment. Mae hefyd wedi ysgrifennu dramâu ar gyfer y llwyfan a theledu, straeon byrion, The Taliesin Tradition (hanes diwylliannol Cymru), a chyhoedodd casgliad o'i farddoniaeth, Collected Poems, ym 1999.[12]
Ymysg ei anrhydeddau, gwobrwywyd y Wobr Somerset Maugham ym 1958 ar gyfer Hear and Forgive, a'r Wobr Hawthornden ar gyfer A Toy Epic yr un flwyddyn.[6] Enillodd Humphreys wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1992 ac 1999.[12][13] Yn 2004, enillodd Humphreys wobr cyntaf Siân Phillips am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru.[14] Roedd Humphreys yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru [15]ac o'r Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth[12] ac yn un o noddwyr Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.[16]
Disgrifwyd ef gan R. S. Thomas fel "the supreme interpreter of Welsh life".[12]
Roedd yn byw yn Llanfairpwll, Ynys Môn lle bu farw yn 101 mlwydd oed.[6][8]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cofio'r llenor a'r 'cawr diwylliannol' Emyr Humphreys , 30 Medi 2020.
- ↑ Emyr Humphreys. Wales Arts International. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ A Man's Estate by Emyr Humphreys. Library of Wales. Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ "Côr Meibion Trelawnyd - History adalwyd 10 Mai 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-17. Cyrchwyd 2016-05-10.
- ↑ 90th birthday celebrated among friends adalwyd 10 Mai 2016
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 7.0 7.1 Old People are a Problem By Emyr Humphreys. The Independent (22 Mehefin 2003). Adalwyd ar 12 Chwefror 2010.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 Gogledd Orllewin: Llên: Emyr Humphreys. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
- ↑ "TV.Com - Dewi Humphreys adalwyd 10 Mai 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-14. Cyrchwyd 2016-05-10.
- ↑ Israeli National Rugby Team Facebook adalwyd 10 Mai 2016
- ↑ Steve Dube (18 Ebrill 2009). Emyr Humphreys’ final book The Woman at the Window. Wales Online. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ 12.0 12.1 12.2 12.3 12.4 Emyr Humphreys - Biography. British Council. Adalwyd ar 4 Chwefror 2010.
- ↑ Past Winners and Judges. Academi. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
- ↑ Emyr Humphreys - enillydd Gwobr Siân Phillips 2004 Gogledd Orllewin: Pigion: Emyr Humphreys - enillydd Gwobr Siân Phillips 2004. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.
- ↑ Thomas, M Wynn (2020). "Cymdeithas Ddysgedig Cymru - Emyr Humphreys, Cymrawd". Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Cyrchwyd 22 Awst 2023.
- ↑ Writing Wales in English. Prifysgol Abertawe. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan am Emyr Humphreys Archifwyd 2016-03-03 yn y Peiriant Wayback
- Academyddion o Gymru
- Addysgwyr o Gymru
- Beirdd yr 20fed ganrif o Gymru
- Beirdd yr 21ain ganrif o Gymru
- Beirdd Saesneg o Gymru
- Cyn Gymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig Cymru
- Cynhyrchwyr teledu o Gymru
- Genedigaethau 1919
- Gwrthwynebwyr Cydwybodol o Gymru
- Llenorion ffeithiol yr 20fed ganrif o Gymru
- Llenorion ffeithiol yr 21ain ganrif o Gymru
- Llenorion ffeithiol Saesneg o Gymru
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o Gymru
- Llenorion straeon byrion yr 21ain ganrif o Gymru
- Llenorion straeon byrion Saesneg o Gymru
- Marwolaethau 2020
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o Gymru
- Nofelwyr yr 21ain ganrif o Gymru
- Nofelwyr Saesneg o Gymru
- Pobl o Sir y Fflint
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl
- Pobl ganmlwydd oed