Dyffryn Clwyd (cantref)

Oddi ar Wicipedia
Dyffryn Clwyd
Enghraifft o'r canlynolcantref, cantref Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Mae hon yn erthygl am y cantref Dyffryn Clwyd: gweler hefyd Dyffryn Clwyd (gwahaniaethu).

Roedd Dyffryn Clwyd yn gantref yn gorwedd yng nghanol y Berfeddwlad mewn ardal sy'n rhan o dde-ddwyrain Sir Ddinbych heddiw.

Ffiniai Dyffryn Clwyd ag Edeirnion a Dinmael yn y de, cantref Rhufoniog yn y gorllewin, Tegeingl yn y gogledd-ddwyrain a chymydau Powys Fadog yn y de-ddwyrain.

Roedd yn gantref pur gyfoethog gan fod cymaint o dir amaeth da yno. Yn gynnar yn yr Oesoedd Canol Dogfeiling oedd ei enw, ar ôl Dogfael neu Dogmael, un o feibion Cunedda. Ond gyda threigliad amser cyfyngid yr enw Dogfeiling i gornel ogleddol y cantref a ddaeth yn un o'i dri chwmwd ynghyd â chymydau Colion a Llannerch yn y de. Rhuthun, yn Nogfeiling, oedd canolfan y cantref. Ceir stryd yn Rhuthun o'r enw 'Lôn Dogfael' (Saesneg; Dog Lane).

Mae ei hanes cynnar yn dywyll. Roedd llawer o'r tir yn perthyn i esgob Bangor ac roedd y cantref ei hun yn rhan o esgobaeth Bangor tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Roedd ym meddiant Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf, yn nhrydedd chwarter y 13g.

Arglwyddiaeth Rhuthun[golygu | golygu cod]

Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-3, cymerodd Edward I o Loegr feddiant o'r cantref, wedi iddo ddienyddio Dafydd ap Gruffudd yn Amwythig, a'i roi i'r arglwydd de Grey, ac felly y crëwyd Arglwyddiaeth Rhuthun. Cododd de Grey Gastell Rhuthun fel canolfan i reoli'r arglwyddiaeth newydd. Yr anghydfod rhwng ei ddisgynnydd Reginald Grey (neu 'de Grey'), arglwydd Rhuthun, ac Owain Glyndŵr, oedd un o brif achosion gwrthryfel y Cymry yn 1400.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]