Castell Rhuthun
Math | castell |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ystâd Castell Ruthin |
Lleoliad | Rhuthun |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 76.8 metr, 79.2 metr |
Cyfesurynnau | 53.112181°N 3.311737°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Sefydlwydwyd gan | Dafydd ap Gruffudd |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | DE022 |
Hen gastell yn nhref hanesyddol Rhuthun, Sir Ddinbych, ydy Castell Rhuthun. Mae'n gymysgedd o olion adeiladu o wahanol oesoedd: fe'i hadeiladwyd yn gyntaf ar olion Caer Gymreig tuag 1280 gan Dafydd ap Gruffudd brawd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru. Cafodd ei ddymchwel ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr. Fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19eg ganrif.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae Castell Rhuthun ar safle a ddefnyddiwyd yn gyntaf fel caer o'r Oes yr Haearn. Yn 1277, rhoddodd Edward I, brenin Lloegr y tir i Dafydd ap Gruffudd fel diolch am ei gymorth yn ystod goresgyniad Gogledd Cymru. Yn wreiddiol, cafodd y castell yr enw Cymraeg Castell Coch yn yr Gwernfor.
Roedd y castell yn fwyaf nodedig fel cartref cangen o'r teulu bonheddig De Grey a roddwyd y teitl "Barwniaid Grey de Ruthyn" a phennaeth arglwyddiaeth marcher Dyffryn Clwyd. Roedd yn ganolfan i Reginald Grey, 3ydd Barwn Grey de Ruthyn - y dyn y gellid dweud iddo sbarduno gwrthryfel Owain Glyn Dŵr.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Castell Rhuthun o'r ffrynt - y prif fynedfa
-
Ffrynt - dau lew tew
-
Waliau'r gwesty modern, ger y ffrynt.
-
Esiampl o ffenest
-
Yr hen gastell
-
Hen waliau
-
Pont a waliau yn y cefn
-
Waliau'r gwesty yn y cefn
-
Waliau'r gwesty yn y cefn
-
Cefn
-
Y cefn
-
Y fynedfa o'r gwesty i'r ardd
-
Cloc y castell
-
Coridor yr hen gastell
-
Y gerddi a hen wal
-
Y gerddi ffurfiol
-
Cefn y castell
-
Ychydig o adfeilion yr hen gastell
-
Y brif fynedfa i'r hen gastell