Colion
Math | ardal, cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dyffryn Clwyd (cantref) |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Dogfeiling, Edeirnion, Dinmael, Ceinmeirch, Llannerch (cwmwd) |
Cyfesurynnau | 53.2°N 3.3°W |
Ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Colion a fu'n gwmwd canoloesol ac sy'n un o gymunedau Sir Ddinbych heddiw.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd cwmwd Colion yng nghantref cantref Dyffryn Clwyd. Gyda Dogfeiling a Llannerch, roedd yn un o dri chwmwd y cantref hwnnw.
Gorweddai yng ngorllewin Dyffryn Clwyd. Ffiniai â Dogfeiling a Llanerch i'r dwyrain, o fewn yr un cantref, darn o Edeirnion ac arglwyddiaeth Dinmael i'r de, a chwmwd Ceinmeirch yng nghantref Rhufoniog i'r gorllewin.
Amrywiai tir y cwmwd. Yn y de-orllewin, codai i fryniau canolig eu huchder Fforest Clocaenog, ar ymyl Mynydd Hiraethog, gan ddisgyn oddi yno i lawr Dyffryn Clwyd ei hun, lle ceid y tir amaethyddol gorau.
Ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, aeth Colion, fel gweddill y cantref, yn rhan o arglwyddiaeth Rhuthun. Mae 'stent' (arolwg ar gyfer y Goron) o'r arglwyddiaeth yn 1324 yn cynnig deunydd gwerthfawr i'r hanesydd am fywyd pobl gyffredin yn y cyfnod hwnnw. Yn "nhref" (math o amlwd) Llanynys, er enghraifft, roedd yna 48 tenant rhydd gyda thir yn y dref ei hun ac mewn trefi cyfagos hefyd. Roedd 'trefi' eraill yn cynnwys Cyffylliog, Clocaenog, a Bryn Saith Marchog.[1]
Aeth y cwmwd yn rhan o'r Sir Ddinbych wreiddiol yn 1536. Aeth yn rhan o sir Clwyd o 1974 hyd 1996 ac heddiw mae'n rhan o'r Sir Ddinbych newydd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Glanville Jones, 'Medieval Settlement', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991).