Ceinmeirch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ceinmeirch
Math Cwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Rhufoniog, Y Berfeddwlad Edit this on Wikidata
Sir Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Afon Clywedog Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Is Aled, Rhufoniog, Colion, Dogfeiling Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 53.170755°N 3.422347°W Edit this on Wikidata

Ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Ceinmeirch a fu'n gwmwd canoloesol ac sy'n fro yn Sir Ddinbych heddiw. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn un o dri chwmwd cantref Rhufoniog (yn hanesyddol, fe'i adnabyddir hefyd fel Cymeirch ac weithiau fel Cwmwd Ystrad).

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Gorweddai cwmwd Ceinmeirch yn ne-ddwyrain cantref Rhufoniog yn y Berfeddwlad rhwng Afon Lliwen ac Afon Clywedog, gan godi o ochr orllewinol Dyffryn Clwyd i gyfeiriad ardal Mynydd Hiraethog.

Ffiniai ag Is Aled yn Rhufoniog i'r gorllewin a chwmwd Colion a rhan o gwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd i'r dwyrain.

Lleolwyd llys y cwmwd yn Ystrad Owen, lle daw ffrwd fechan i lawr i Afon Ystrad, tua 2 filltir i'r de o dref Dinbych heddiw. Yna y ceid Llys Gwenllian, o fewn Castell mwnt a beili gyda maerdref gerllaw. O Lys Gwenllian rhedai'r Lôn Werdd (y Greenway ar fap yr Ordnans) yn llinyn syth i eglwys Llanrhaeadr.[1]

Yn ddiweddarach daeth yn rhan o Arglwyddiaeth Dinbych ac yna'r hen Sir Ddinbych ac wedyn Clwyd.

Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych gyda rhan fechan ym mwrdeistref sirol Conwy. Mae'r rhan sydd yn Sir Ddinbych yn cael ei adnabod fel bro Ceinmeirch.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Glanville Jones, 'Medieval Settlement', yn The Archaeology of Clwyd (Cyngor Sir Clwyd, 1991), tud. 194.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]