Llys Gwenllian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llys Gwenllian
Mathcastell mwnt a beili Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.16834°N 3.41299°W Edit this on Wikidata

Tua tri-chwarter milltir i'r de o Ddinbych, ger Pont Ystrad, saif olion Llys Gwenllian, sef caer neu gastell mwnt a beili. Galwyd y llys am flynyddoedd yn 'Llys Gwenllian' (Cyfeirnod OS: SJ06SE1) ac yn Hen Ddinbych. [1] Dywed rhai mai dyma leoliad gwreiddiol Dinbych.

Mae'r olion a welir heddiw mewn siap petryal ac yn mesur tua 75m wrth 54m.[2] Mae'r mwnt ei hun tua 6.5m o uchder.

Cyflwynodd Llywelyn Fawr (c.1173 – 1240) y tir yn anrheg i'w ferch anghyfreithlon Gwenllian a briododd William de Lacey.[3][4] Yn 1283, flwyddyn wedi lladd y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd. rhoddodd Edward I, brenin Lloegr orchymun i godi'r castell presennol (tua milltir oddi yma) yn ei ymgais o orchfygu Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Dictionary of Place-names gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan; Gwasg Gomer, 2008.
  2. coflein.gov.uk; adalwyd 4 Tachwedd 2020, gyda ffos o'i gwmpas.
  3. ffish.com; achau Llywelyn Fawr. Adalwyd 4 Tachwedd 2020.
  4. [1] Mapiau a lluniau lloeren o'r hen lys
CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato