Afon Ystrad

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Afon Ystrad

Afon yng ngogledd Cymru sy'n llifo i mewn i Afon Clwyd yw Afon Ystrad. Mae'n tarddu ar yr ucheldir i'r de o Nantglyn. Ger pentref Nantglyn mae Afon Lliwen yn ymuno â hi, yna mae'n llifo tua'r gogledd-ddwyrain heibio Maesefin a'r Lawnt. Llifa ychydig i'r de o dref Dinbych a heibio pentref Brookhouse cyn ymuno ag Afon Clwyd ger Pont Glan-y-Wern.

CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato