Uwch Aled
Jump to navigation
Jump to search
Ardal wledig yng nghornel dde-ddwyreiniol sir Conwy, ond yn hanesyddol yn rhan o'r hen sir Sir Ddinbych, yw Uwch Aled. Fe'i gelwir 'Uwch Aled' am ei fod yr ochr uchaf i Afon Aled. Yn yr Oesoedd Canol roedd Uwch Aled yn un o dri chwmwd cantref Rhufoniog.

Golygfa yn Uwch Aled ger Pentrefoelas.
Mae'r pentrefi a chymunedau yn cynnwys:
- Cefn-brith
- Cerrigydrudion, pentref mwyaf yr ardal,
- Llangwm,
- Pentrefoelas,
- Pentre-llyn-cymer,
- Dinmael,
- Glasfryn,
- Llanfihangel Glyn Myfyr,
- Y Maerdy,
- Cwm Penanner.
Mae Uwch Aled yn ardal fynyddig, anghysbell, gyda chanran uchel o siaradwyr Cymraeg. Rhed afon Ceirw trwy ran ddeheuol yr ardal.